Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi cael eich treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol, rydyn ni yma i chi. Os ydych chi'n barod i wneud hynny, gallwch riportio treisio ac ymosodiadau rhywiol inni ar-lein.
Ond os nad ydych chi’n awyddus i siarad â ni, neu os hoffech gael cymorth ychwanegol, mae llawer o bobl sy'n gallu helpu.
Chi sy'n rheoli pethau, a mater i chi yw pwy rydych chi’n siarad â nhw a pha gymorth rydych chi'n ei gael.
Gallwch siarad â'r bobl a'r sefydliadau hyn yn breifat ac yn gyfrinachol, ac oni bai eu bod yn credu bod rhywun mewn perygl difrifol, ni fyddant yn rhannu unrhyw beth gyda ni.
Mae Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) yn fan lle gallwch fynd ar ôl treisio neu ymosodiad rhywiol i gael cymorth meddygol, ymarferol ac emosiynol cyfrinachol gan feddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth arbenigol.
Gallwn ni eich cyfeirio at SARC neu gallwch eich cyfeirio chi’ch hun heb ein cynnwys ni o gwbl.
Mae rhai SARCs mewn ysbytai, mae eraill yn y gymuned leol. Mae ganddyn nhw enwau gwahanol mewn lleoliadau gwahanol o gwmpas y wlad.
Mae nifer o SARCs yn ardal Heddlu De Cymru.
Mae Ynys Saff yn cynnwys Caerdydd a'r Fro.
Mae Llwybrau Newydd yn cynnwys Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r dolenni uchod yn rhoi eu lleoliadau a manylion y cymorth sydd ar gael.
Gallwch gael archwiliad meddygol fforensig mewn SARC. Bydd nyrs neu feddyg yn eich archwilio ac yn casglu tystiolaeth feddygol fforensig (er enghraifft drwy ddefnyddio swabiau).
Mae tystiolaeth feddygol fforensig yn golygu rhywbeth y gallai'r troseddwr fod wedi'i adael ar ôl ar eich corff ac a allai ein helpu i brofi beth ddigwyddodd.
Nid yw cael archwiliad meddygol fforensig yn golygu bod rhaid ichi riportio i'r heddlu. Gall y SARC gadw'r dystiolaeth a gall ei rhannu hi gyda ni os penderfynwch chithau riportio’r peth yn nes ymlaen. Mae hyn yn cadw’ch opsiynau chi’n agored.
Rhagor am dystiolaeth fforensig mewn treisio ac ymosodiadau rhywiol
Mae cynghorwyr annibynnol ar drais rhywiol (ISVAs) yn staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig ac sy'n rhoi cymorth ymarferol ac emosiynol i oedolion, plant a'u teuluoedd.
Gall ISVA eich helpu mewn llawer o ffyrdd gwahanol:
Mae ISVAs yn gwbl annibynnol arnon ni, a gallwch siarad â nhw heb ein cynnwys ni gwbl.
Person ac nid lle yw ISVA. Mae ISVAs yn gweithio mewn llawer o wahanol leoedd, gan gynnwys rhai o'r sefydliadau cymorth ar y dudalen hon.
Cysylltwch â sefydliad i ofyn a oes ganddyn nhw wasanaeth ISVAs. Neu gallwn ni roi cyngor ichi os byddwch yn penderfynu cysylltu â ni.
Llinell Gymorth 24/7 Trais a Chamdriniaeth Rywiol
Yn darparu cymorth arbenigol, gyfrinachol am ddim i ddioddefwyr trais neu gamdriniaeth rywiol. Ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Yn cael ei ddarparu gan Rape Crisis England and Wales, a’i ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. 0808 500 2222
Sefydliad ymbarél sy'n cefnogi gwaith Canolfannau Argyfwng Trais i fenywod a merched ledled Cymru a Lloegr. Chwiliwch am Ganolfan Rape Crisis yn eich ardal chi.
Asiantaeth ymbarél ar gyfer gwasanaethau trais a cham-drin rhywiol arbenigol ledled y Deyrnas Unedig. Chwiliwch am aelodau o’r Survivors Trust yn eich ardal chi
Help a chyngor am drais yn erbyn menywod, gan gynnwys trais rhywiol a cham-drin domestig. Mae’n cael ei reoli gan Gymorth i Fenywod Cymru.
Cymorth ar ôl treisio ac ymosodiad rhywiol
Gwybodaeth a chyngor ynglŷn ag iechyd meddwl
Os ydych chi'n poeni am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) neu feichiogrwydd, chwiliwch am wasanaethau iechyd rhywiol drwy wefan y GIG. Gallwch gael cymorth mewn SARC hefyd.
Yn gweithio i wella iechyd a lles pobl fyddar.
Elusen cydraddoldeb i bobl anabl, sy’n darparu gwybodaeth ymarferol a chymorth emosiynol.
Sefydliad i fenywod sy'n ymroi i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched o gymunedau du a lleiafrifol.
Mae’r sefydliadau sy’n aelodau o Imkaan yn cynnig cymorth arbenigol.
Cymorth i oroeswyr gwrywaidd o dras Asiaidd, Affricanaidd ac Affricanaidd-Caribïaidd.
Cymorth i bobl sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Yn cefnogi bechgyn a dynion sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol.
Rhwydwaith o sefydliadau sy'n gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr gwryw camdriniaeth rywiol, treisio a chamfanteisio rhywiol.
Gwybodaeth, adnoddau hunan-gymorth a chyfeiriadau i ddynion sydd wedi cael eu treisio, wedi dioddef ymosodiad rhywiol neu wedi cael eu cam-drin yn rhywiol.
Llinell gymorth bwrpasol i ddynion a bechgyn.
Cymorth i oroeswyr gwrywaidd o dras Asiaidd, Affricanaidd ac Affricanaidd-Caribïaidd.
Yn gweithio i roi terfyn ar niwed, cam-drin a chamfanteisio ar bobl hŷn.
Yn gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn gweithwyr rhyw. Gall aelodau gofrestru i rannu a derbyn rhybuddion am bobl beryglus.
Mynnwch gyngor a chymorth gan eich prifysgol.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Eich iechyd a'ch lles chi yw'r peth pwysicaf i ni. Gallwch gael therapi neu gwnsela annibynnol unrhyw bryd yn ystod y broses, gan gynnwys tra byddwn yn dal i ymchwilio i'r drosedd.
Os ydych chi'n meddwl yr hoffech chi gael therapi neu gwnsela yn ystod ymchwiliad a chyn treial, siaradwch â ni er mwyn inni’ch cynghori a'ch cefnogi.