Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd y ffurflen yn cymryd tua 5 i 10 munud i'w llenwi, felly gofalwch eich bod yn ddiogel i gymryd yr amser hwnnw i'w llenwi.
Defnyddiwch y botwm 'Allanfa Gyflym’ os oes angen. Bydd yn cau'r wefan hon ac yn agor peiriant chwilio Google; fydd eich ffurflen ddim yn cael ei chadw ac ni fydd yn cael ei hanfon aton ni.
Bydd eich adroddiad yn mynd i'n canolfan gysylltu 24/7 a bydd yn cael ei hadolygu o fewn ychydig oriau fan bellaf.
Bydd swyddog sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yn cysylltu â chi o fewn 24 awr fan bellaf, neu ar yr adeg ac yn y ffordd rydych chi wedi gofyn inni wneud (byddwn yn gofyn am hyn ar y ffurflen).
Wnawn ni ddim anfon derbynneb ebost atoch, gan y gallai hynny fod yn fygythiad i'ch diogelwch.
Os ydych chi'n poeni y gallai rhywun weld eich hanes gwe, dyma wybodaeth am sut i guddio’r ymweliad hwn.
Sylwch: mae'r gwasanaeth hwn ar gael er mwyn riportio ymddygiad sy’n rheoli, yn bwlio, yn bygwth neu’n dreisgar rhwng partneriaid, cyn-bartneriaid neu aelodau o'r teulu.
Os yw’r hyn rydych am ei riportio wrthym ni yn ymwneud â phobl sydd ddim yn perthyn i’w gilydd yn y modd hwnnw, defnyddiwch ein gwasanaeth riportio troseddau ar-lein.
Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am adroddiad camdriniaeth ddomestig sy'n bodoli eisoes
Diolch.
Mae’r ffurflen hon ar gael er mwyn ichi roi unrhyw wybodaeth ychwanegol neu newydd am ddigwyddiad o gamdriniaeth ddomestig rydych chi eisoes wedi rhoi gwybod inni amdano.
Byddwn yn gofyn ichi roi’r canlynol:
Cliciwch 'Dechrau’ isod i ddechrau.
Dechrau