Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych wedi bod yn dyst i drosedd neu wedi dioddef trosedd riportiwch hynny wrthym.
Bydd ein hystafell reoli yn delio ag adroddiadau yn union yr un ffordd boed eich bod yn ei riportio ar-lein neu’n ein ffonio.
Cyn eich bod yn rhoi manylion y drosedd i ni, byddwn yn gofyn ychydig gwestiynau er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd y ffurflen ar-lein gywir.
Riportio twyll ar-lein
Os ydych chi’n amau eich bod wedi dioddef sgâm, twyll neu seiberdroseddu, riportiwch hynny ar-lein wrth Action Fraud.
Neu gallwch ffonio Action Fraud (ffôn testun 0300 123 2050).
Action Fraud yw canolfan riportio twyll a seiberdroseddu y DU. Bydd yn anfon eich adroddiad i’w asesu at y Ganolfan Cudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol (NFIB), sy’n cynnal ymchwiliadau troseddol.
Bydd tîm Action Fraud hefyd yn rhoi’r cymorth, y cyngor a’r gefnogaeth sydd ei angen arnoch.