Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi colli neu ddod o hyd i eiddo mewn man cyhoeddus, efallai y gallwn helpu. Atebwch y cwestiynau isod i weld beth yw’r peth gorau i’w wneud nesaf.
Rydw i wedi colli eitem ar eiddo preifat
Cysylltwch â pherchennog yr eiddo yn uniongyrchol (gan gynnwys siopau, bwytai neu dafarndai).
Ar gyfer pasbortau neu drwyddedau gyrru y DU, riportio am y golled wrth y Swyddfa Basbort neu’r DVLA.
Yn achos pasbortau, cardiau adnabod a thrwyddedau gyrru tramor, riportiwch y golled i ni mewn gorsaf heddlu. Defnyddiwch y chwiliwr isod i ddod o hyd i'r orsaf agosaf at y lle y cafodd yr eitem ei cholli.
Ar gyfer cardiau banc neu ddogfennau swyddogol eraill, megis tystysgrifau geni a chyfriflenni banc, adroddwch am y golled wrth y swyddfa a’u rhoddodd.
Mae gan Heddlu De Cymru gronfa ddata eiddo y gallwn ei chwilio amdanoch chi. Os ydych wedi colli eitem, ffoniwch 101 a dywedwch wrthym: