Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi colli neu ddod o hyd i eiddo mewn man cyhoeddus, efallai y gallwn helpu. Atebwch y cwestiynau isod i weld beth yw’r peth gorau i’w wneud nesaf.
Mae gan yr eitem rydw i wedi dod o hyd iddi mewn man cyhoeddus rif cyfresol
Ewch â hi i orsaf heddlu neu ei rhoi i swyddog heddlu neu SCCH fel y gellir dod o hyd i’r perchennog neu ddelio â hi mewn modd arall.
Eitemau y gallwn ni helpu gyda nhw:
Ni all y rhan fwyaf o heddluoedd helpu gyda beiciau y deuir o hyd iddynt. Gallwch weld a yw beic wedi cael ei riportio fel un wedi’i ddwyn yn bikeregister.com.
Mae gan rai heddluoedd gynlluniau lleol; os ydych yn dod o hyd i feic yn Swydd Gaerloyw, ewch ag ef i orsaf heddlu.