Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Atebwch y cwestiynau hyn i ddysgu â phwy y dylech chi gysylltu os oes gennych wybodaeth am dwyll, llwgrwobrwyo neu lygredd posibl, neu os ydych chi'n credu eich bod wedi dioddef sgam neu dwyll.
Os ydych chi'n poeni y gallai rhywun weld eich hanes gwe, dyma wybodaeth am sut i guddio'r ymweliad hwn.
Riportio llwgrwobrwyo neu lygredd i'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
Mae'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn ymladd troseddau difrifol a threfnedig gan gynnwys llwgrwobrwyo a llygredd rhyngwladol sy'n ymwneud â phobl a chwmnïau yn y Deyrnas Unedig.
Os ydych chi'n gwybod bod llwgrwobr yn cael ei thalu i swyddogion llywodraeth dramor gan berson neu gwmni yn y Deyrnas Unedig, gallwch ei riportio i Uned Llygredd Rhyngwladol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.