Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn amrywio o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu gamdriniol i aflonyddwch yn y gymdogaeth yn ymwneud â chyffuriau neu anifeiliaid, mae sawl ffurf ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch hynny wrthym.
Bydd ein hystafell reoli yn delio ag adroddiadau yn union yr un ffordd boed eich bod yn ei riportio ar-lein neu’n ffonio 101.
Riportio tân gwyllt sy’n creu sŵn digroeso ac yn achosi niwsans
Diolch.
Os ydych yn dioddef niwsans sŵn gan gymydog sy’n tanio tân gwyllt yn rheolaidd ar ei eiddo rhwng 7am ac 11pm, riportiwch hyn wrth eich cyngor lleol.
Oriau nos y DU yw 11pm i 7am. Mae tanio tân gwyllt ar yr adeg hon yn groes i’r gyfraith.
Eithriadau i hyn yw:
Os ydych yn profi un noson o darfu am gyfnod hir a achosir gan ddefnydd tân gwyllt yn anghyfreithlon, gallwch riportio hyn ar-lein.
Cliciwch 'Dechrau' isod i gwblhau ein ffurflen ar-lein syml a chyflym. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch.
Byddwn yn asesu’r hyn rydych wedi’i riportio, yn cofnodi’r digwyddiad, ac yn penderfynu ar y camau gorau i’w cymryd. Fel arfer byddwn ond yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o fanylion arnom.
Mewn rhai achosion byddwn yn hysbysu eich tîm plismona lleol sy’n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Efallai y bydd am gysylltu â chi i drafod y mater ymhellach.
Gallwch lawrlwytho copi o’r hyn rydych wedi’i riportio ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Cyfartaledd amser cwblhau: 5 i 10 munud
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol wrth law gennych, os yn bosibl
Dechrau