Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn amrywio o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu gamdriniol i aflonyddwch yn y gymdogaeth yn ymwneud â chyffuriau neu anifeiliaid, mae sawl ffurf ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch hynny wrthym.
Bydd ein hystafell reoli yn delio ag adroddiadau yn union yr un ffordd boed eich bod yn ei riportio ar-lein neu’n ffonio 101.
Riportio tân gwyllt sy’n cael eu defnyddio mewn modd amhriodol
Diolch.
Os oes rhywun yn tanio neu’n taflu tân gwyllt mewn man cyhoeddus, gallwch chi riportio hyn ar-lein.
Cliciwch 'Dechrau' isod i lenwi ein ffurflen sydyn a syml ar-lein. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch chi.
Byddwn ni’n asesu eich adroddiad, yn cofnodi’r digwyddiad ac yn penderfynu ar y camau gorau i'w cymryd. Fel arfer, dim ond os bydd angen rhagor o fanylion arnom ni y gwnawn ni gysylltu â chi.
Mewn rhai achosion, fe wnawn ni roi gwybod i'ch tîm plismona lleol sy’n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Efallai y byddan nhw’n dymuno cysylltu â chi i drafod ymhellach.
Bydd modd llwytho copi o’ch adroddiad i lawr at eich cofnodion eich hun.
Amser cwblhau arferol: 5 i 10 munud
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol gennych chi, os yw'n bosibl:
Dechrau