Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn amrywio o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu gamdriniol i aflonyddwch yn y gymdogaeth yn ymwneud â chyffuriau neu anifeiliaid, mae sawl ffurf ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch hynny wrthym.
Bydd ein hystafell reoli yn delio ag adroddiadau yn union yr un ffordd boed eich bod yn ei riportio ar-lein neu’n ffonio 101.
Riportio rhywun sy’n ymddwyn mewn ffordd sy’n peri pryder i mi
Diolch.
Gallwch riportio’r mathau canlynol o ymddygiad ar-lein:
Cliciwch 'Dechrau' isod i gwblhau ein ffurflen ar-lein syml a chyflym. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch.
Byddwn yn asesu’r hyn rydych wedi’i riportio, yn cofnodi’r digwyddiad, ac yn penderfynu ar y camau gorau i’w cymryd. Fel arfer byddwn ond yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o fanylion arnom.
Mewn rhai achosion byddwn yn hysbysu eich tîm plismona lleol sy’n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Efallai y bydd am gysylltu â chi i drafod y mater ymhellach.
Gallwch lawrlwytho copi o’r hyn rydych wedi’i riportio ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Cyfartaledd amser cwblhau: 5 i 10 munud
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol wrth law gennych, os yn bosibl:
Dechrau