Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn amrywio o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu gamdriniol i aflonyddwch yn y gymdogaeth yn ymwneud â chyffuriau neu anifeiliaid, mae sawl ffurf ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch hynny wrthym.
Bydd ein hystafell reoli yn delio ag adroddiadau yn union yr un ffordd boed eich bod yn ei riportio ar-lein neu’n ffonio 101.
Riportio gwybodaeth am ddefnyddio cyffuriau yn fy nghymdogaeth
Diolch.
Gallwch chi riportio unrhyw wybodaeth sydd gennych chi am ddelio cyffuriau, defnyddio cyffuriau neu unrhyw beth arall yn ddienw i Crimestoppers ar 0800 555 111.
Gallwch chi hefyd riportio hyn i ni ar-lein; cliciwch 'Dechrau' isod i ddechrau. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch chi.
Byddwn ni’n asesu eich adroddiad, yn cofnodi’r digwyddiad ac yn penderfynu ar y camau gorau i'w cymryd. Fel arfer, dim ond os bydd angen rhagor o fanylion arnom ni y gwnawn ni gysylltu â chi.
Yn y rhan fwyaf o achosion, fe wnawn ni roi gwybod i'ch tîm plismona lleol sy’n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fe wnawn nhw gysylltu â chi os bydd angen mwy o wybodaeth arnyn nhw i helpu gydag ymchwiliad.
Bydd modd llwytho copi o’ch adroddiad i lawr at eich cofnodion eich hun.
Amser cwblhau arferol: 5 i 10 munud
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol gennych chi, os yw'n bosibl:
Dechrau