Coronafeirws (Covid-19)

Os ydych eisiau rhoi gwybod i ni am rywbeth yr ydych chi’n credu allai fod yn torri’r mesurau ‘Aros gartref’, cysylltwch â ni am hynny gan ddefnyddio ein gwasanaeth coronafeirws (Covid-19)

 


 

Yn amrywio o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu gamdriniol i aflonyddwch yn y gymdogaeth yn ymwneud â chyffuriau neu anifeiliaid, mae sawl ffurf ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch hynny wrthym.

Bydd ein hystafell reoli yn delio ag adroddiadau yn union yr un ffordd boed eich bod yn ei riportio ar-lein neu’n ffonio 101.

Offeryn cyngor

Riportio cardota ymosodol neu bobl yn achosi aflonyddwch

Diolch.

Gall cardota ymosodol neu fygythiol fod yn frawychus, yn enwedig os yw wedi’i gyfuno ag ymddygiad meddw, swnllyd neu anweddus fel gweiddi, rhegi neu’n pasio dŵr yn y stryd.

Cliciwch 'Dechrau' isod i gwblhau ein ffurflen ar-lein syml a chyflym. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch.

Byddwn yn asesu’r hyn rydych wedi’i riportio, yn cofnodi’r digwyddiad, ac yn penderfynu ar y camau gorau i’w cymryd. Fel arfer byddwn ond yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o fanylion arnom.

Mewn rhai achosion byddwn yn hysbysu eich tîm plismona lleol sy’n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Efallai y bydd am gysylltu â chi i drafod y mater ymhellach.

Gallwch lawrlwytho copi o’r hyn rydych wedi’i riportio ar gyfer eich cofnodion eich hun.

Cyfartaledd amser cwblhau: 5 i 10 munud

Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol wrth law gennych, os yn bosibl:

  • lle digwyddodd hyn
  • beth ddigwyddodd
  • enwau neu ddisgrifiad o’r bobl sy’n gysylltiedig

 

Dechrau