Coronafeirws (Covid-19)

Os ydych eisiau rhoi gwybod i ni am rywbeth yr ydych chi’n credu allai fod yn torri’r mesurau ‘Aros gartref’, cysylltwch â ni am hynny gan ddefnyddio ein gwasanaeth coronafeirws (Covid-19)

 


 

Yn amrywio o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu gamdriniol i aflonyddwch yn y gymdogaeth yn ymwneud â chyffuriau neu anifeiliaid, mae sawl ffurf ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch hynny wrthym.

Bydd ein hystafell reoli yn delio ag adroddiadau yn union yr un ffordd boed eich bod yn ei riportio ar-lein neu’n ffonio 101.

Offeryn cyngor

Riportio anifail sy’n cael ei ddefnyddio’n anghyfreithlon (ee i ymladd)

Diolch.

Os ydych wedi gweld rhywun, neu’n amau bod rhywun, yn defnyddio anifail i ymladd, hela ysgyfarnogod neu weithgareddau anghyfreithlon eraill, gallwch riportio hyn wrthym.

Cliciwch 'Dechrau' isod i gwblhau ein ffurflen ar-lein syml a chyflym. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch.

Byddwn yn asesu’r hyn rydych wedi’i riportio, yn cofnodi’r digwyddiad, ac yn penderfynu ar y camau gorau i’w cymryd. Fel arfer byddwn ond yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o fanylion arnom.

Mewn rhai achosion byddwn yn hysbysu eich tîm plismona lleol sy’n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Efallai y bydd am gysylltu â chi i drafod y mater ymhellach.

Gallwch lawrlwytho copi o’r hyn rydych wedi’i riportio ar gyfer eich cofnodion eich hun.

Cyfartaledd amser cwblhau: 5 i 10 munud

Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol wrth law gennych, os yn bosibl:

  • lleoliad y digwyddiad
  • beth ddigwyddodd
  • enwau neu ddisgrifiad o’r bobl oedd yn gysylltiedig
  • manylion cyswllt unrhyw dystion i’r digwyddiad
  • pryd ddigwyddodd hyn

 

Dechrau