Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae llawer math o ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu sarhaus i aflonyddwch mewn cymdogaeth sy'n cynnwys cyffuriau neu anifeiliaid.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch y peth i ni.
Gall eich cymdogaeth fod yn ardal lle rydych chi’n byw, yn gweithio neu'n ymweld yn aml.
Riportio cerbyd sydd wedi'i barcio yn fy man dynodedig i neu’n rhwystro’r fynedfa i’m dreif
Os oes lle parcio ar gael ar ffordd gyhoeddus anghyfyngedig, hyd yn oed os yw hwnnw yn uniongyrchol y tu allan i'ch tŷ chi, mae unrhyw un yn cael parcio yno. Dyw'r lle ddim yn perthyn i'r eiddo.
Er hynny, os oes rhywun wedi parcio yn eich man parcio dynodedig chi heb eich caniatâd, cysylltwch â phwy bynnag sy'n gyfrifol am eich adeilad, fel y rhydd-ddeiliad, y cyngor neu'r asiant rheoli. Gallan nhw eich helpu i ddatrys y mater.
Ym mhob achos, ein cyngor cyntaf ni yw ceisio datrys y mater yn heddychlon eich hunan. Ceisiwch siarad â'r gyrrwr achos mae’n bosibl nad ydyn nhw'n ymwybodol o'r broblem. Os na allwch chi ddod o hyd i’r gyrrwr, gadewch nodyn cwrtais ar eu ffenestr flaen.
Os nad yw hyn yn tycio, cysylltwch â'ch cyngor lleol, a fydd yn rhoi rhagor o gyngor.
Rhwystro’ch dreif
Os oes cerbyd yn rhwystro'r fynedfa ac yn eich atal rhag gyrru i mewn i’ch dreif, nid mater i'r heddlu yw hyn. Efallai y gall eich cyngor lleol helpu, ond bydd y polisïau'n amrywio gan ddibynnu ble rydych chi'n byw. Fe fydden ni bob amser yn argymell cael gair cwrtais gyda'r gyrrwr yn gyntaf, achos mae’n bosibl bod camddealltwriaeth wedi bod.