Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae llawer math o ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu sarhaus i aflonyddwch mewn cymdogaeth sy'n cynnwys cyffuriau, ceir sydd wedi’u gadael neu anifeiliaid.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch y peth i ni.
Gall eich cymdogaeth fod yn ardal lle rydych chi’n byw, yn gweithio neu'n ymweld yn aml.
Riportio galwadau gwerthu neu ymweliadau tŷ “annisgwyl” a digroeso
Dyw hi ddim yn anghyfreithlon i bobl ymweld â'ch cartref yn ddirybudd i werthu nwyddau neu wasanaethau, ond fe allwch chi geisio atal yr unigolion hyn drwy roi sticer neu rybudd ar eich drws yn dweud nad ydych chi am i neb alw heb rybudd.
Os ydych chi'n cael galwadau ffôn digroeso, rydym yn argymell y dylech chi gysylltu â'ch darparwr gwasanaethau ffôn. Dylen nhw allu awgrymu sawl ffordd o sgrinio a rhwystro galwadau sy'n dod i mewn. Efallai yr hoffech chi ystyried cofrestru gyda'r Gwasanaeth Dewisiadau Ffôn hefyd.
Os bydd yr ymweliadau neu'r galwadau'n parhau, y cam nesaf fyddai cysylltu â chwmni'r unigolyn i wneud cwyn.
Os nad yw hyn yn eu hatal nhw, cysylltwch â'ch swyddfa Safonau Masnach leol neu Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 06. Gallan nhw roi rhagor o gymorth a chefnogaeth ichi.