Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oni bai bod trosedd wedi’i chyflawni neu fod rhywun mewn perygl ar y pryd, nid yw’r heddlu’n debygol o ymyrryd mewn anghydfodau sifil. Fodd bynnag, fe rown ni chi mewn cysylltiad â’r grwpiau a’r sefydliadau all helpu. Cwblhewch y frawddeg isod i gael y cyngor sydd ei angen arnoch i ddatrys eich anghydfod mor gyflym a chyfeillgar â phosibl.
Rydw i’n cael anghydfod gyda dyledwr ynglŷn â siec sydd wedi bownsio
Gall siec ‘fownsio’ am nifer o resymau:
Fel arfer bydd y banc yn ysgrifennu cyfarwyddiadau ar y siec a ddychwelir sy’n rhoi gwybod i chi pam ei bod wedi bownsio.
Gellir datrys y tair sefyllfa gyntaf uchod fel arfer drwy gysylltu â chodwr y siec. Fodd bynnag, os ydych chi’n amau bod twyll wedi digwydd, siaradwch â’ch banc, a fydd efallai’n eich cynghori i ddweud wrth yr heddlu. Os felly, gallwch gysylltu â’n tîm Action Fraud penodol.
Darperir y wybodaeth hon diolch i Ask the Police.