Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oni bai bod trosedd wedi’i chyflawni neu fod rhywun mewn perygl ar y pryd, nid yw’r heddlu’n debygol o ymyrryd mewn anghydfodau sifil. Fodd bynnag, fe rown ni chi mewn cysylltiad â’r grwpiau a’r sefydliadau all helpu. Cwblhewch y frawddeg isod i gael y cyngor sydd ei angen arnoch i ddatrys eich anghydfod mor gyflym a chyfeillgar â phosibl.
Rydw i’n cael anghydfod gyda chyn bartner neu briod ynglŷn â phwy sydd biau’r car
Y llys sydd i benderfynu a yw person yn berchen ar gerbyd. Y ffeithiau i’w hystyried yw:
Nid yw dogfen gofrestru (V5) yn brawf perchnogaeth. Mae’r DVLA yn dweud yn glir nad y person a enwir ar y V5 o reidrwydd yw’r perchennog. Caiff y person hwnnw ei ystyried yn gyfrifol am y cerbyd gan yr heddlu a’r DVLA, ond y perchennog yw’r person sydd wedi talu am y car, neu’r person â’i dderbyniodd fel rhodd.
Bydd ceir a ddefnyddir gan barau priod fel arfer yn cael eu hystyried fel cydberchnogaeth.
Lladrad
Mae’n drosedd i berson gymryd eiddo rhywun arall mewn modd anonest gyda’r bwriad o’i amddifadu o’r eiddo hwnnw.
Ni chaiff ei ystyried yn anonest os yw’r person yn credu’n ddidwyll:
Nid yw’r mwyafrif helaeth o achosion yn lladrad. Anghydfodau sifil ydynt ac oherwydd hyn byddem yn argymell siarad â chyfreithiwr neu Cyngor ar Bopeth fel cam cyntaf. Os ydyn nhw’n argymell riportio’r mater i ni, riportiwch ef wrthym ar-lein.
Dychwelyd car i chi
Os mai chi yw perchennog cyfreithiol y cerbyd a’i fod ym meddiant eich cyn bartner neu briod, gallwch naill ai:
Darperir y wybodaeth hon diolch i Ask the Police.