Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oni bai bod trosedd wedi’i chyflawni neu fod rhywun mewn perygl ar y pryd, nid yw’r heddlu’n debygol o ymyrryd mewn anghydfodau sifil. Fodd bynnag, fe rown ni chi mewn cysylltiad â’r grwpiau a’r sefydliadau all helpu. Cwblhewch y frawddeg isod i gael y cyngor sydd ei angen arnoch i ddatrys eich anghydfod mor gyflym a chyfeillgar â phosibl.
Rydw i’n cael anghydfod gyda chymydog ynglŷn â theganau ei blant, megis peli neu ffrisbis, yn fy ngardd
Nid cynnwys yr heddlu yn y math hwn o achos yw’r camau gorau fel yr ymateb cyntaf. Gall waethygu’r mater ac achosi mwy o broblemau i’r ddau barti.
Os yw’n bosibl, siaradwch â’ch cymydog am y broblem a cheisiwch ei datrys rhyngoch.
Os ydych wedi ceisio neu’n teimlo, am ba bynnag reswm, nad yw hyn yn opsiwn dylech siarad â’ch tîm plismona cymdogaeth lleol.
Sylwer, os byddwch yn cadw’r teganau ac yn gwrthod eu dychwelyd, efallai y gallech chi gael eich erlyn.
Darperir y wybodaeth hon diolch i Ask the Police.