Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth yw llwyth annormal? |
2. Pryd mae angen ichi roi gwybod ac i bwy |
3. Sut i roi gwybod |
4. Gwybodaeth arall |
Mae pa mor bell ymlaen llaw y mae angen ichi ddweud wrth rywun, ac wrth bwy, yn dibynnu ar y math o lwyth, ei bwysau, ei led a’i hyd.
Mae dimensiynau a phwysau’r cerbydau a ddefnyddir ar ffyrdd Prydain yn cael eu rheoleiddio gan y canlynol:
Yn y tablau isod, rydyn ni’n defnyddio C&U ac STGO i gyfeirio at y cyfyngiadau sydd wedi’u gosod gan y rheolau hyn. Mae pa gyfyngiadau C&U neu STGO sy’n gymwys i chi yn dibynnu ar y math o gerbyd a manylebau’r cerbyd.
Cyfanswm pwysau'r cerbyd gan gynnwys y llwyth |
Y gofynion ynglŷn â hysbysu |
---|---|
Dros y terfyn C&U hyd at 80,000kg (78.74 tunnell). |
Dau ddiwrnod gwaith o hysbysiad gydag indemniad i awdurdodau ffyrdd a phontydd. |
80,000kg i 150,000kg (147.63 tunnell). |
Dau ddiwrnod gwaith o hysbysiad gydag indemniad i awdurdodau ffyrdd a phontydd. Dau ddiwrnod gwaith o hysbysiad i’r heddlu. |
Dros 150,000kg (147.63 tunnell). |
Pum diwrnod gwaith o hysbysiad gydag indemniad i awdurdodau ffyrdd a phontydd Pum diwrnod gwaith o hysbysiad i’r heddlu. Gorchymyn arbennig National Highways. Dylech wneud cais o leiaf 10 wythnos ymlaen llaw. Mae National Highways yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Nid yw cymeradwyaeth yn awtomatig. |
Lled |
Y gofynion ynglŷn â hysbysu |
---|---|
Llwythi C&U: dros 2.9m (9tr 6mod) hyd at 4.3m (14tr 1 mod) o led Llwythi STGO: dros 3.0m (9tr 10mod) hyd at 5.0m (16tr 5mod) o led |
Dau ddiwrnod gwaith o hysbysiad i’r heddlu. |
Dros 5.0m (16tr 5mod) hyd at 6.1m (20tr) o led |
Dau ddiwrnod gwaith o hysbysiad i’r heddlu. Ffurflen VR1 National Highways. Dylech wneud cais o leiaf bythefnos ymlaen llaw. Mae National Highways yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Nid yw cymeradwyaeth yn awtomatig. |
Dros 6.1m (20tr) |
Pum diwrnod gwaith o hysbysiad i’r heddlu. Pum diwrnod gwaith o hysbysiad gydag indemniad i awdurdodau ffyrdd a phontydd. Gorchymyn arbennig National Highways. Dylech wneud cais o leiaf 10 wythnos ymlaen llaw. Mae National Highways yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Nid yw cymeradwyaeth yn awtomatig. |
Hyd |
Y gofynion ynglŷn â hysbysu |
---|---|
Llwythi C&U: dros 18.65m (61tr 2mod) hyd at 27.4m (90tr) o hyd Llwythi STGO: dros 18.75m (61tr 6mod) o hyd |
Dau ddiwrnod gwaith o hysbysiad i’r heddlu. |
Cyfanswm hyd cerbyd cyfun yn fwy na 25.9m (85tr) |
Dau ddiwrnod gwaith o hysbysiad i’r heddlu. |
Dros 30.0m (98tr 5mod) Hefyd rhai llwythi ysgafn iawn, er enghraifft mastiau hwylio:
|
Pum diwrnod gwaith o hysbysiad i’r heddlu. Pum diwrnod gwaith o hysbysiad gydag indemniad i awdurdodau ffyrdd a phontydd. Gorchymyn arbennig National Highways. Dylech wneud cais o leiaf 10 wythnos ymlaen llaw. Mae National Highways yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Nid yw cymeradwyaeth yn awtomatig. |