Cynllun ildio yn dechrau er mwyn cadw arfau peryglus oddi ar y strydoedd
Cynnwys y prif erthygl
Mae Heddlu De Cymru yn cefnogi cynllun ildio arfau cenedlaethol, lle gellir talu iawndal i bobl am ildio arfau ymosodol – a fydd yn anghyfreithlon yn 2021 – er mwyn eu tynnu oddi ar y strydoedd a helpu i atal trais difrifol rhag digwydd.
O dan gynllun y Swyddfa Gartref, gellir ildio arfau ymosodol (a gaiff eu gwahardd yn fuan) i'r heddlu, yn ogystal â reifflau tanio cyflym sy'n tanio ar gyfradd sy'n agosach at reifflau lled-awtomatig. Bydd perchnogion cyfreithlon yn gallu hawlio iawndal am yr eitemau yn y rhan fwyaf o achosion.
Mae hyn yn dilyn y Ddeddf Arfau Ymosodol sy'n gwahardd unigolion rhag meddu ar arfau peryglus ac ymosodol yn breifat. Mae'r rhestr o arfau yn cynnwys:
- cyllyll sombi,
- cyllyll seiclon,
- dyrnau haearn,
- cyllyll seren farwolaeth,
- cyllyll clec,
- cyllyll disgyrchiant,
- batonau,
- cyllyll cudd,
- dagerau gwthio
- arfau ymosodol eraill.
Roedd eisoes yn anghyfreithlon meddu ar gyllell neu arf ymosodol yn gyhoeddus.
Bydd y cynllun yn para am dri mis rhwng 10 Rhagfyr 2020 a 9 Mawrth 2021. Bydd perchnogion cyfreithlon yn gallu hawlio iawndal os bydd cyfanswm gwerth yr hawliad yn fwy na £30. Gellir cyflwyno hawliadau i'r heddlu gan ddefnyddio ffurflen: https://www.gov.uk/government/publications/offensive-weapons-act-surrender-and-compensation-scheme
Mae'r cynllun hwn yn ychwanegol at yr amnestau cyllyll y mae heddluoedd yn eu cynnal yn rheolaidd.
Mae mynd i'r afael â'r niwed a achosir gan droseddau sy'n ymwneud â chyllyll yn flaenoriaeth bwysig i Heddlu De Cymru. Gall fod effeithiau erchyll yn sgil defnyddio cyllell. Mae angen i bobl sy'n cario un gofio sut y gall eu gweithredoedd effeithio arnyn nhw, ar bobl eraill, ar eu teulu a'u ffrindiau, ac ar y gymuned ehangach.
Bydd pob arf a gaiff ei ildio drwy'r cynllun hwn gan y Swyddfa Gartref yn golygu bod un arf yn llai ar gael i'w defnyddio mewn ffordd amhriodol. Manteisiwch ar y cynllun hwn – gallech achub bywyd drwy wneud hynny.
Bydd modd ildio arfau yn y gorsafoedd canlynol o dan y cynllun; dylech drefnu i ddod rhwng 10am a 3pm, o ddydd Llun i ddydd Sul.
- Gorsaf Heddlu'r Barri (Heol Gladstone, CF63 1TD)
- Gorsaf Heddlu Pen-y-bont ar Ogwr (Stryd Bracla, CF31 1BZ)
- Gorsaf Heddlu Bae Caerdydd (Stryd James, CF10 5EW)
- Gorsaf Heddlu Merthyr Tudful (Parc Busnes Rhydycar, CF48 1DL)
- Gorsaf Heddlu Castell-nedd (Heol Parc y Gnoll, SA11 3BG)
- Gorsaf Heddlu Pontypridd (Heol Berw, CF37 2TR)
- Gorsaf Heddlu Canol Abertawe (Grove Place, SA1 5DF)
Mae'r cynllun ildio llawn yn gymwys yng Nghymru a Lloegr ac mae'n ymwneud â chyllyll penodol ac arfau ymosodol eraill, yn ogystal â reifflau tanio cyflym, eu cyfarpar ategol a'u stociau tanio. Dim ond mewn perthynas ag arfau tanio, eu cyfarpar ategol a'u stociau tanio y mae'r cynllun yn berthnasol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae canllawiau ar gael drwy'r Swyddfa Gartref sy'n cynnwys rhestr o'r eitemau dan sylw, a chanllawiau ar sut i deithio gydag arfau a'u hildio yn ddiogel, ynghyd â lefelau iawndal.
Gallwch e-bostio unrhyw ymholiadau i: Offensive-Weapons-Surrender@south-wales.police.uk