Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menyw o Abertawe wedi cael ei charcharu am amrywiaeth o droseddau cyffuriau ar ôl iddi gael ei stopio gan swyddogion yr heddlu mewn dillad plaen.
Plediodd Hayley Hughes, 42 oed o Portmead, Abertawe, yn euog i fod â chocên yn ei meddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi a chaffael/defnyddio eiddo troseddol pan ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Abertawe ddydd Mawrth 15 Ebrill 2025.
Roedd hyn yn dilyn digwyddiad ddydd Llun 14 Ebrill 2025 lle cafodd Hughes ei stopio gan swyddogion mewn dillad plaen a oedd ar batrôl yng Nghanol Dinas Abertawe. Roeddent wedi gweld Hughes yn cymryd rhan yn yr hyn a oedd yn ymddangos fel dêl cyffuriau.
Pan aethant ati, dihangodd ar gyflymder yn ei char ond gyrrodd i lawr stryd bengaead, lle cafodd ei dal. Canfuwyd bod ganddi dros £500 mewn arian parod, dwy owns o gocên wedi'i rannu yn ddeliadau unigol, a 3.35 gram o amffetamin yn ei meddiant.
Cafodd ei ffôn symudol ei ddadansoddi a ddatgelodd ei rhan sylweddol yn ymwneud â chyflenwi cocên mewn cymunedau yn Abertawe.
Cafodd Hughes ei dedfrydu i ddwy flynedd a phedwar mis yn y carchar pan gafodd ei dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth 10 Ebrill 2025.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Wilson, “Mae gennym batrolau dillad plaen ledled De Cymru bob dydd sy'n cadw golwg am weithgarwch troseddol fel hyn. Rwy'n falch o weld y ddedfryd hon a roddwyd iddi heddiw, ac yn gobeithio y bydd yn rhoi amser iddi fyfyrio ar ei gweithredoedd.”