Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cyn-aelod o staff yr heddlu wedi cael ei dyfarnu'n euog o drosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol i'w chariad, a oedd yn ddeliwr cyffuriau.
Roedd Lucy Langmead, 44 oed o Bontypridd, yn gweithio i Heddlu De Cymru pan ddechreuodd berthynas â Daniel Cozens, 37 oed, yn 2020.
Canfu ymchwiliad gan Uned Atal Llygredigaeth yr heddlu bod Langmead, rhwng mis Mai 2021 a mis Chwefror 2022, wedi cael mynediad i system gyfrifiadurol yr heddlu ac wedi datgelu gwybodaeth gyfrinachol i Cozens am ei bartneriaid heb ganiatâd.
Rhwng mis Mai 2020 a mis Mawrth 2022, defnyddiodd Langmead system gyfrifiadurol yr heddlu yn anghyfreithlon i gael gwybodaeth am aelodau o'i theulu a phartneriaid hefyd.
Cawsant eu harestio a gwnaethant bledio'n euog i nifer o droseddau, gan gynnwys cynllwynio i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus rhwng mis Mai 2021 a mis Chwefror 2022.
Plediodd Langmead yn euog i 13 o droseddau o gael mynediad heb awdurdod at ddeunydd cyfrifiadurol, a phum trosedd o ddatgelu data personol yn anghyfreithlon.
Plediodd Cozens, sydd hefyd o Bontypridd, yn euog i fod yn gysylltiedig â chyflenwi cyffur a reolir dosbarth C (bensodiasepinau); Bod yn gysylltiedig â chyflenwi cyffur a reolir dosbarth C (pregabalin) a bod â chyffur a reolir dosbarth B yn ei feddiant (canabis).
Ymddangosasant yn Llys y Goron Caerdydd ar Fehefin 3 lle cafodd Lucy Langmead ei dedfrydu i ddwy flynedd ac 11 mis, a dedfrydwyd Daniel Cozens i un flwyddyn ac wyth mis.
Ymddiswyddodd Langmead o Heddlu De Cymru ym mis Mai 2022.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Bella Rees, Pennaeth Safonau Proffesiynol:
“Mae gan swyddogion a staff yr heddlu fynediad at wybodaeth bersonol a phreifat ac mae'n un o ddisgwyliadau'r cyhoedd ac yn ofyniad cyfreithiol y dylai gwybodaeth gael ei thrin yn gwbl gyfrinachol, ei diogelu'n briodol a'i defnyddio at ddibenion plismona dilys.
“Mae cael gafael ar wybodaeth gyfrinachol yr heddlu heb ddiben plismona dilys yn achos o gamddefnyddio rôl ac, fel y mae'r achos hwn yn dangos, caiff ei drin yn ddifrifol iawn.”