Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gaerffili wedi cael ei garcharu am amrywiaeth o droseddau gyrru yn dilyn ymlid gan Heddlu De Cymru.
Mae Niall Bright sy'n 28 oed o Abercarn yng Nghaerffili wedi pledio'n euog i yrru'n beryglus, gyrru tra wedi ei wahardd, defnyddio car heb yswiriant, methu â darparu sampl i'w ddadansoddi, dau achos o ymosodiad ar weithiwr gwasanaeth brys a bod â chyffur Dosbarth B (Amphetamine) yn ei feddiant pan ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mawrth 20 Mai, 2025.
Roedd hyn yn dilyn digwyddiad ddydd Llun, 19 Mai, 2025, pan tynnwyd sylw swyddogion o uned plismona'r ffyrdd i Bright a oedd yn gyrru Volkswagen Golf a oedd yn gysylltiedig ag ymchwiliad yr heddlu a oedd yn dal i fynd rhagddo.
Defnyddiodd y swyddogion stribyn pigog ar y car a oedd yn llwyddiannus ar y pedwar teiar, fodd bynnag methodd Bright â stopio a arweiniodd at ymlid. Gwnaeth Bright barhau i yrru mewn modd gwyllt, yn cynnwys gyrru ar ochr anghywir y ffordd ar sawl achlysur gan gynnwys o amgylch cylchfan a gyrru dros ddwbl y terfyn cyflymder. Gwnaeth hefyd yrru ei gar i mewn i gar swyddog arall yn ystod yr ymlid.
Daeth yr ymlid i ben ar yr A48 lle gwnaeth Bright wrthdaro ag arwydd ffordd. Cafodd ei arestio yn syth a phan ofynnwyd iddo, methodd â darparu sampl i'w ddadansoddi yn yr ysbyty.
Dedfrydwyd Bright i ddwy flynedd a dau fis yn y carchar yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Llun, 16 Mehefin, 2025.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu: "Nid oedd Bright yn poeni dim ar y rhai a oedd o'i gwmpas drwy yrru mewn modd mor beryglus, gall y math hwn o yrru arwain at ganlyniadau dinistriol.
Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn anfon neges gref nad yw byth yn dderbyniol gyrru yn y modd hwn a'n bod ni bob amser allan ar batrôl ac y gallwn fod yn unrhyw le”