Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gyrrwr wedi'i wahardd o Rondda Cynon Taf wedi cael ei garcharu am droseddau moduro, gan gynnwys methu â stopio ei fan ar gyfer yr heddlu.
Ddydd Sul 6 Ebrill 2026, roedd swyddogion plismona'r ffyrdd yn gyrru ar hyd Oxford Street yn Nantgarw pan wnaethant sylwi ar fan Peugeot wyn yn gyrru heibio ar gyflymder uchel.
Ar unwaith, gwnaeth y swyddogion dro pedol er mwyn dilyn y fan. Roedd Dean John, 51 oed o Bentre'r Eglwys yn ymddangos fel petai am stopio ei fan wrth gael arwydd i wneud hynny, ond gyrrodd i ffwrdd ar gyflymder.
Parhaodd John i yrru'n wyllt, gan yrru drwy olau coch, gwyro dros y ffordd, a gyrru dros ddwywaith y terfyn cyflymder cyfreithiol. Yna, daeth i stop ar ffordd bengaead a cheisiodd dianc rhag y swyddogion drwy redeg a chuddio mewn llwyn.
Cafodd John ei arestio am gyflawni nifer o droseddau. Ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mawrth 8 Ebrill 2025, lle plediodd yn euog i fethu â stopio pan ofynnodd yr heddlu iddo wneud hynny, defnyddio cerbyd modur heb yswiriant, gyrru tra roedd wedi'i wahardd, methu â darparu sampl i'w ddadansoddi, a gyrru cerbyd modur yn beryglus.
Cafodd ei ddedfrydu i flwyddyn yn y carchar a'i wahardd rhag gyrru am bum mlynedd ychwanegol.