Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menyw o Abertawe wedi cael ei charcharu ar ôl cyflawni bwrgleriaeth.
Aeth Melanie Morgan, sy'n 43 oed a heb gartref sefydlog, i mewn i gyfeiriad ar Morris Street, Treforys ar 28 Mawrth. Ar ôl siarad â'r fenyw oedrannus a oedd yn byw yno, a oedd yn ddieithr iddi, dihangodd Morgan â phwrs a oedd yn yr ystafell fyw ar ôl i'r dioddefwr adael yr ystafell i chwilio am gyffur lladd poen i Morgan ac i ffonio am dacsi iddi.
Sylweddolodd y dioddefwr fod y pwrs ar goll y diwrnod canlynol.
Plediodd Morgan yn euog i fwrgleriaeth ac mae wedi cael ei dedfrydu i 45 mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Kristian Burt:
"Cymerodd Melanie Morgan fantais o garedigrwydd ei dioddefwr oedrannus yn ddidostur a heb unrhyw gywilydd.
"Fel y dywedodd y barnwr, mae gan Melanie Morgan natur ddichellgar ac mae'n fenyw sy'n meddwl am ei hun yn unig.
"Rydym yn gobeithio y bydd yn meddwl am ei gweithredoedd yn ystod ei chyfnod yn y carchar."