Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl iddo bledio'n euog i gyflenwi cyffuriau Dosbarth B.
Cafodd Tu Ba Dien, 26 oed o Bort Talbot, ei arestio yn ystod gwarant mewn cyfeiriad ar Southdown View, Sandfields ar 10 Ebrill.
Daethpwyd o hyd i bron i 200 o blanhigion canabis yn yr eiddo ar ôl i'r planhigion ddechrau tyfu drwy wal i'r cyfeiriad drws nesaf.
Nododd swyddogion o'r Tîm Cymorth Tiriogaethol a'r Tîm Plismona yn y Gymdogaeth lleol bod pob un o'r tair ystafell wely, yn ogystal â'r atig, yn cael eu defnyddio i dyfu canabis. Atafaelwyd 170 o blanhigion.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 12 mis yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Carys Pudner:
“Tu Ba Dien oedd yr unig berson y daethpwyd o hyd iddo yn y cyfeiriad yn ystod y warant cyffuriau, ond fel bob amser, dim ond un o nifer o bobl yw ef sy'n ymwneud â'r rhwydwaith sy'n cyflenwi'r fasnach anghyfreithlon hon.
“Nid yw wedi gweithio iddo ef – bydd yn treulio'r flwyddyn nesaf yn y carchar.”