Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl pledio'n euog i stelcio.
Gwnaeth Raymond John, 42 oed, aflonyddu ar ei ddioddefwr sawl gwaith yn ei gweithle rhwng mis Ionawr a mis Mai eleni.
Ar un achlysur, aeth i'w gweithle chwe gwaith, gan sefyll yn y fynedfa yn syllu ar y dioddefwr.
Ar ddiwrnod arall, aeth i'w gweithle pan roedd y dioddefwr i ffwrdd o'r gwaith a gofynnodd i'r staff lle roedd hi. Parhaodd yr ymddygiad hwn am wythnosau.
Nid oedd y dioddefwr yn gallu gweithio ar ei phen ei hun er ei diogelwch.
Hefyd, gwnaeth John ystumiau rhywiol tuag at y dioddefwr yn ei gweithle, o flaen un o'i chydweithwyr.
Mae wedi ei ddedfrydu i 12 wythnos yn y carchar a bydd yn destun gorchymyn atal yn erbyn y dioddefwr.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Liam Finan:
"Gwnaeth Raymond John fywyd ei ddioddefwr yn anghyfforddus yn ddyddiol gyda'i ymddygiad cwbl annerbyniol
"Ni ddylai neb orfod delio â stelciwr fel hyn. Rydym yn gobeithio mai dyma ddiwedd ei obsesiwn â'r dioddefwr."
Mae stelcio yn fath o aflonyddu, ond bydd gan y stelciwr obsesiwn â'r person y mae'n ei dargedu a gall ei ymddygiad digroeso ac ailadroddus wneud i'r dioddefwr deimlo'n ofidus neu'n ofnus.
Gall stelcio gynnwys:
Mae'n stelcio os yw'r ymddygiad digroeso wedi digwydd dwywaith neu fwy ac wedi gwneud i chi deimlo'n ofnus, yn ofidus neu dan fygythiad.
Os yw'r digwyddiad digroeso hwn yn digwydd dwywaith neu fwy, gall fod yn drosedd a gallwch roi gwybod i ni.