Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi'i garcharu ar ôl iddo ddinoethi'n anweddus a chyflawni gweithred rywiol yng ngorsaf bws y ddinas.
Cyflawnodd Mark Jones, 43 oed o Mount Pleasant, y drosedd yn fuan wedi 1:30am ar 1 Chwefror eleni, o flaen aelodau o'r cyhoedd a oedd yn pasio. Gwrthododd adael pan ofynnodd staff diogelwch iddo wneud hynny.
Gwnaeth Jones ffoi o'r lleoliad pan gyrhaeddodd yr heddlu, ond cafodd ei arestio gerllaw yn fuan wedi hynny.
Dywedodd wrth swyddogion y byddai'n parhau i ymddwyn yr un fath pe bai'n cael ei ryddhau.
Ar ôl pledio'n euog i weithred o sarhau gwedduster cyhoeddus, mae wedi cael ei ddedfrydu i chwe mis yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Mark Bateman:
"Mae'r ymddygiad a ddangoswyd gan Mark Jones yn gwbl annerbyniol ac ni ddylai'r cyhoedd orfod gweld y gweithredoedd hyn wrth iddynt fyw eu bywydau pob dydd.
"Nid dyma'r tro cyntaf i Mark gyflawni trosedd o'r natur hon. Rydym yn gobeithio bod ffordd o sicrhau ei fod yn newid ei ffyrdd o'r diwedd."