Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl iddo bledio'n euog i greu a rhannu lluniau anweddus o blant.
Yn dilyn ymchwiliad gan Dîm Ymchwilio Ar-lein Heddlu De Cymru, gwnaeth Dean Hanford, 23 oed o Flaengwynfi, gyfaddefiad anarferol drwy ei fargyfreithiwr yn y llys fod ganddo atyniad rhywiol tuag at blant.
Dengys tystiolaeth y daethpwyd o hyd iddi yn ystod gwarant yng nghyfeiriad Hanford yn 2023 ei fod wedi derbyn taliadau gan bobl eraill ar-lein yn gyfnewid am fideos pornograffig o blant.
Cafodd ei ddedfrydu i 28 mis o garchar.
Bydd yn droseddwr rhyw cofrestredig am y deng mlynedd nesaf, a bydd hefyd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am ddeng mlynedd.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Chris Cole:
“Mae'r ffaith bod Dean Hanford wedi cyfaddef ei fod yn bedoffil yn y llys yn eithriadol ac yn dangos ei fod yn unigolyn peryglus iawn.
“Nid oes ganddo unrhyw foesau, a gwnaeth hyd yn oed geisio defnyddio'r esgus ei fod yn gwerthu'r lluniau i gefnogi ei fam, a oedd yn ddi-waith.
“Carchar yw'r unig le i berson sydd wedi cyflawni'r mathau hyn o droseddau.”