Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl iddo roi car dyn arall ar dân yn fwriadol.
Cyflawnodd Jamie Paton, 34 oed o Benlan, y tân bwriadol ar 11 Tachwedd 2024. Yna, gwnaeth fygwth ddefnyddio “bom petrol” yng nghyfeiriad dyn arall.
Er gwaethaf ymdrechion i osgoi cael ei arestio, cafodd Paton ei ddarganfod gan swyddogion ym mis Rhagfyr. Difrododd gerbyd yr heddlu yn ystod ei arestiad a chafodd ei ganfod yn euog o drosedd trefn gyhoeddus homoffobig yn erbyn y swyddog a wnaeth ei arestio.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 25 mis yn y carchar.
Dywedodd PC Lisa Stokes:
“Yn amlwg, mae Jamie Paton yn unigolyn penboeth ac anaeddfed nad oedd yn fodlon derbyn canlyniadau ei weithredoedd ei hun.
“Waeth p'un a oedd Jamie wedi cweryla â phobl eraill, does dim esgus dros roi eu cerbyd ar dân – gallai'r tân fod wedi lledaenu ac effeithio ar eiddo cyfagos, gan achosi niwed i aelodau'r cyhoedd nad oeddent yn gysylltiedig o gwbl.
“Nid oedd Jamie yn poeni dim am hynny – yr unig beth o bwys iddo oedd ei wylltineb. Yn amlwg, gwyddai ei fod wedi gwneud rhywbeth o'i le, dyma pam y gwnaeth bopeth o fewn ei allu i osgoi cael ei arestio nes iddo gael ei ddal gan swyddogion.”