Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn gynharach y mis hwn, gosododd y llywodraeth argymhellion newydd i wneud yn siŵr bod gan swyddogion heddlu y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i gario a rhoi'r cyffur sy'n achub bywyd, er mwyn mynd i'r afael â defnydd o gyffuriau gwaharddedig.
Mae'r nifer o swyddogion rheng flaen Heddlu De Cymru sy'n cario naloxone sy'n achub bywyd yn cynyddu bob blwyddyn.
Heddiw, mae 756 o swyddogion heddlu, swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a chwnstabliaid gwirfoddol yn dewis cario naloxone trwynol – penderfyniad sy'n achub bywydau bob wythnos.
Ers iddo gael ei gyflwyno gan Heddlu De Cymru yn 2022, mae wedi cael ei ddefnyddio 134 o weithiau mewn sefyllfaoedd y gellir eu hystyried fel rhai sy'n peryglu bywyd.
Mae aelodau o'r rheng flaen yn cario naloxone ar sail wirfoddol ac maent yn cael hyfforddiant sylfaenol ynglŷn â phryd a sut i roi'r gwrthgyffur sy'n dadwneud effeithiau gorddos o opioid.
Pan oedd ar ddyletswydd ddydd Sadwrn, 17 Ebrill (2025), cafodd swyddog Cathays, Cwnstabl yr Heddlu Hollie Flannigan ei hanfon i ardal Caerdydd lle'r oedd menyw wedi dod ar draws dyn anymwybodol ar lôn.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Flannigan:
"Wrth gyrraedd roeddwn yn gallu gweld ei fod yn anymwybodol ond roedd ei lygaid ar agor. Roedd ei anadlu yn annormal ac roedd yn oer wrth gyffwrdd ag ef. Roedd y gwasanaeth ambiwlans wedi cael eu hysbysu ond roeddwn yn gwybod nad oedd amser i'w wastraffu gan y gallai ei fywyd fod mewn perygl. Rhoddais un dos o naloxone trwynol iddo ond ni wnaeth ei ddeffro, felly rhoddais ail ddos iddo ac yn fuan wedyn daeth ato'i hun ac roedd yn eistedd i fyny yn siarad â ni. Cyrhaeddodd yr ambiwlans yn fuan wedyn ac aethpwyd ag ef i'r ysbyty."
Ychwanegodd:
"Fel swyddogion yr heddlu ni, yn aml, yw'r cyntaf i gyrraedd safleoedd argyfyngau brys. Mae'n hawdd iawn rhoi naloxone trwynol ac nid oes risg o unrhyw adwaith niweidiol, felly yn bersonol mae penderfynu ei gario yn ddewis amlwg i mi."
Mae'r ffigyrau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod opiodiau wedi cyfrannu at fwy o farwolaethau yng Nghymru yn 2022-2023 nag unrhyw sylwedd arall. Roedd 125 o farwolaethau opioid, 64 ohonynt yn cynnwys heroin neu forffin a'r 61 o farwolaethau eraill yn cynnwys oleiaf un opioid arall fel methadone, codeine neu tramadol. Mae opioidau yw'r grŵp sylwedd mwyaf cyffredin a gaiff ei gofnodi mewn marwolaethu yn gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau yng Nghymru.
Dywedodd Arweinydd Naloxone heddlu De Cymru, yr Arolygydd Stuart Johnson:
“Yn 2018, roedd nifer y marwolaethau o ganlyniad i gyffuriau yng Nghymru, yn fwy penodol yn Ne Cymru, ar ei uchaf ers degawd a bu'n rhaid i ni feddwl am ffyrdd o'i leihau.
“Yn dilyn cynllun peilot naloxone llwyddiannus iawn yng Nghastell-nedd Port Talbot yn 2021, gwnaethom sicrhau ei fod ar gael i swyddogion ym mhob rhan o'r heddlu, a heddiw, mae gennym nifer gynyddol o wirfoddolwyr sy'n ei gario. Mae naloxone yn syml iawn i'w ddefnyddio ac mae'n hawdd i'w gario. Mae'n lleihau'r amser a dreulir mewn digwyddiadau sydd o fudd i'r gwasanaeth ac sy'n helpu i leihau nifer yr achosion o orddos yn y pen draw. Gallai pob swyddog llinell flaen a gwasanaethau eraill gario naloxone – rwy'n gobeithio y bydd y defnyddio ohono yn parhau i dyfu."
Ar 12 Mai, gosododd y llywodraeth argymhellion newydd i awdurdodau lleol, yr heddlu a sefydliadau iechyd cyhoeddus baratoi yn well yn erbyn opioidau synthetig mewn ymdrech i wneud y strydoedd yn fwy diogel. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod gan swyddogion heddlu y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i gario a rhoi'r naloxone, sef cyffur sy'n achub bywyd i fynd, i'r afael â defnydd o gyffuriau gwaharddedig.
Fel cefnogaeth i adroddiad y Swyddfa Gartref, dywedodd y Prif Gwnstabl Richard Lewis, arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu:
"Mae'r defnydd o gyffuriau synthetig, fel y defnydd o bob cyffur gwaharddedig, yn beryglus iawn i'r rheini sy'n eu defnyddio ac maent yn cynyddu'r risg o orddos. Rydym yn croesawu argymhellion y llywodraeth ar sut i ymateb ar y cyd i'r bygythiad penodol hwn.
"Rydym wedi cefnogi'r defnydd o'r cyffur gorddos Naloxone, sydd wedi lleihau'r siawns o farwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau pan gaiff ei roi gan swyddogion sy'n ei gario ac rydym yn annog ei ddefnydd ymhellach.
"Rydym yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn y bobl rydym yn eu gwasanaethu ar y cyd â'n partneriaid, gan gynnwys yr unigolion sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac mae'r adnodd hwn yn un opsiwn y gallwn ei gymryd i gyflawni hyn."