Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tyfwyr canabis a ddringodd ar do tŷ yng Nghastell-nedd Port Talbot er mwyn ffoi rhag swyddogion wedi cael eu carcharu.
Ymddangosodd Ergys a Dorjan Dautaj, y mae'r ddau yn 24 oed, gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Llun, 28 Ebrill, ar ôl pledio'n euog i gynhyrchu canabis.
Roedd y ddau mewn tŷ ar Swansea Road, Trebanos, pan dorrodd timau chwilio tactegol i mewn i'r eiddo ar 13 Chwefror.
Torrodd y ddau ddyn eu ffordd i fyny drwy do y tŷ, gan beryglu eu bywydau drwy neidio ar do tŷ cyfagos wrth geisio ffoi.
GWYLIWCH: Ffilm Camerâu Fideo a Wisgir ar y Corff yn dal yr eiliad maen nhw'n neidio o do i do.
Eiliadau yn ddiweddarach, gwnaethant ildio i'r swyddogion a oedd wedi amgylchynu'r tŷ.
Daethpwyd o hyd i blanhigion canabis ar gamau tyfu amrywiol yn y tŷ, a oedd wedi'i addasu'n beryglus i dyfu'r cyffur.
Cafodd Osman Sallaku, 21 oed, ei arestio mewn cyfeiriad agos ar yr un diwrnod yn ystod gwarant cydgysylltiedig gan yr heddlu, ac ymddangosodd i gael ei ddedfrydu ochr yn ochr â'r ddau arall.
Cafodd Ergys Dautaj ei garcharu am ddwy flynedd. Cafodd Dorjan Dautaj ac Osman Sallaku eu carcharu am 12 mis.
Roeddent ymysg 12 o bobl a gafodd eu harestio yn ystod Ymgyrch Millie a gynhaliwyd drwy gydol mis Chwefror 2024. Cafodd gwarantau eu cyflawni ledled De Cymru, gan gynnwys yn Abertawe, Caerdydd a chymoedd De Cymru, yn ystod trydydd cam ymdrech genedlaethol gan heddluoedd ledled Cymru a Lloegr i darfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol.