Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arweiniodd archwiliad ystafell amserol gan un o lanhawyr gwesty at dranc dau ddeliwr cyffuriau yng Nghaerdydd.
Aeth Keiran McCoy, 20 oed a Zack Tawton, 21 oed, i aros yng ngwesty Ibis Porth Caerdydd am bum diwrnod dan enwau ffug ar 5 Medi, 2024.
Ar 7 Medi, gadawon nhw eu hystafell ond daeth un o'r glanhawyr i mewn a digwydd taro ar eu busnes cyffuriau.
Roedd cocên wedi'i adael ar ddreser y gwesty ac roedd pecynnau maint pêl golff ar y llawr, ynghyd â mwy na 100 o fagiau selio o'r cyffur dosbarth A.
Llwyddodd y staff chwim eu meddwl yn y gwesty i gofnodi'r cyfan ar fideo a ffoniwyd yr heddlu.
GWYLIWCH: Y glanhawr chwim ei feddwl yn digwydd taro ar y busnes delio cyffuriau ac yn ei ffilmio cyn rhoi gwybod i'r heddlu.
Cyn i'r swyddogion gyrraedd, roedd McCoy a Tawton wedi dychwelyd i'w hystafell ond ar ôl cael eu dychryn wrth weld tywelion ffres, aethon nhw ati i bacio'u pethau er mwyn gadael y gwesty.
Cyrhaeddodd y swyddogion mewn union bryd i arestio Tawton yn y dderbynfa. Llwyddodd McCoy i ddianc ond cafodd ei arestio ddeuddydd yn ddiweddarach.
Gwadodd y ddau eu bod yn gwybod am y cyffuriau ond cawsant eu dal ar deledu cylch cyfyng y gwesty yn defnyddio'r ystafell.
Hefyd, gwelwyd olion powdr gwyn ar fwg a adawyd yn yr ystafell a chadarnhawyd mai cocên oedd.
Roedd llun ar ffôn un o'r dynion yn dangos un ohonynt yn ystafell y gwesty gyda'r cyffuriau.
Wrth chwilio cartref Tawton yn Llanisien, daeth swyddogion o hyd i fachete a dros £8,000 wedi'i guddio dan fatras.
Plediodd Zack Tawton, o Coed Cochwyn Avenue, Llanisien, yn euog o ymwneud â chyflenwi cocên, caffael eiddo troseddol (sef arian) a sawl trosedd yrru.
Plediodd Keiran McCoy, o Bardsey Crescent, Llanisien, yn euog o ymwneud â chyflenwi cocên a sawl trosedd yrru, gan gynnwys methu â stopio – troseddau a gyflawnwyd pan wnaeth yr heddlu ymholiadau cyn arestio.
Ymddangosodd y ddau gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau, 10 Ebrill, lle y cawsant eu carcharu – Tawton am dair blynedd, and McCoy am dwy flynedd a hanner.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Jones:
“Aeth y ddau o gwmpas eu busnes yn y gwesty gan feddwl na fyddai neb yn sylwi arnynt.
“Roeddent yn delio mewn symiau sylweddol o gyffuriau ac yn ymelwa ar drallodion pobl eraill ond hoffwn roi sicrwydd i'r cyhoedd y byddwn yn defnyddio'r Ddeddf Enillion Troseddau i sicrhau na fyddant yn elwa ar eu troseddau.
“Mae'r ddau ddyn bellach yn y carchar lle y byddant yn cael digon o amser i fyfyrio ar y penderfyniadau a'u harweiniodd yno.
“Hoffwn ganmol y staff oedd yn gweithio yn y gwesty am feddwl mor chwim.”