Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cyn-bennaeth wedi cael ei garcharu yn dilyn ymosodiad ar ddyn arall ar safle ysgol.
Ymosododd Anthony Felton, 54 oed, o Gorseinon, ar gyd-athro gan ddefnyddio sbaner yn Ysgol Gyfun Gatholig St. Joseph's yn Aberafan, Castell-nedd Port Talbot ar 5 March mewn digwyddiad a recordiwyd ar system CCTV yr ysgol.
Bu'n rhaid mynd â'r dioddefwr i'r ysbyty oherwydd y digwyddiad.
Ar ôl pledio'n euog i geisio achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol ym mis Ebrill, mae wedi'i ddedfrydu heddiw i ddwy flynedd a phedwar mis.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Simon Davies:
“Mae gweithredoedd Anthony Felton wedi arwain at ei garcharu, maent wedi cael effaith sylweddol ar ei fywyd personol ac maent wedi dinistrio ei yrfa addysgu a oedd wedi para degawdau – heb sôn am yr effaith gorfforol ar y dioddefwr, y mae'n dda gennym nodi ei fod yn gwella.
“Mae'r ymosodiad hwn, a'r hyn a'i dilynodd, wedi bod yn brofiad ofnadwy nid yn unig i'r rhai sy'n uniongyrchol gysylltiedig ag ef, ond hefyd i aelodau eraill o staff yn yr ysgol, yn ogystal â'r disgyblion a'u rhieni a'u gwarcheidwaid.
“Nid oes unrhyw esgus dros yr hyn y mae Anthony Felton wedi'i wneud, ac nid oedd unrhyw ganlyniad posibl arall heblaw am ei garcharu.”