Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menyw o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei charcharu ar ôl dwyn miloedd gan ei chyflogwr.
Roedd Rebecca Hanford sy'n 44 oed o Sgiwen, wedi bod yn gweithio fel ariannwr yn Arbourne's ar New Road, Sgiwen, ers 2010.
Hyd at fis Medi 2020, sylweddolodd y busnes fod colled o tua £55,000 yn eu cyfrifon. Dywedodd y perchnogion busnes wrth y llys eu bod wedi amcangyfrif y gallai hyd at £100,000 fod wedi cael ei gymryd.
Mae wedi cael ei dedfrydu i 12 mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Simon Davies:
"Nid yn unig roedd gweithredoedd Rebecca Hanford yn droseddol, roeddent yn hunanol; gwnaethant hefyd achosi effaith niweidiol ar ei chydweithwyr, a gafodd eu hamau pan sylweddolwyd bod diffyg ariannol.
"Roedd hi'n gwybod bod yr hyn roedd yn ei wneud yn anghywir, ond parhaodd i weithredu. Mae hefyd yn debyg iddi golli swm sylweddol o'r arian y gwnaeth ei ddwyn drwy hapchwarae. Mae'n honni iddi wario'r arian ar filiau'r cartref ond nid oedd hyn yn dal dŵr.
"Mae nawr yn mynd i'r carchar o ganlyniad i'w gweithredoedd, a dylai'r ddedfryd hon gael ei hystyried fel rhybudd clir i unrhyw un arall sy'n meddwl cymryd rhan yn yr ymddygiad troseddol hwn."