Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Birmingham wedi cael ei garcharu ar ôl cael ei weld yn cymryd rhan mewn dêl cyffuriau yn Abertawe.
Cafodd Shalw Jamel, 29 oed, ei arestio gan swyddogion mewn dillad plaen o dan Adran 23 o'r Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau yn dilyn y digwyddiad ar St. Helen's Avenue ym mis Rhagfyr 2024.
Pan gafodd ei arestio, canfuwyd bod gan Jamel wyth bag pum gram o ganabis a dros £900 mewn arian parod yn ei feddiant. Yn dilyn ei arestiad, honnodd yn anwir i'r swyddogion ei fod yn gweithio mewn golchfa ceir gerllaw.
Ar ôl pledio'n ddieuog i fod â chyffur Dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, newidiodd Jamel ei ble i euog ym mis Mawrth.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 12 mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Heather Southway:
“Cafodd Shalw Jamel ei ddal gan swyddogion tra roedd wrthi'n gwerthu cyffuriau Dosbarth B. Yna, penderfynodd ddweud celwydd wrth yr heddlu am sut roedd yn ennill ei arian.
“Eto, gall unrhyw un sy'n ymwneud â'r fasnach cyffuriau anghyfreithlon, sy'n amharu ar fywydau ormod o lawer yn ein cymunedau, fod yn siŵr y byddwn yn eu canfod ac mae'n debygol y byddant yn mynd i'r carchar.
“Gyda Shalw Jamel yn mynd i'r carchar, yn ffodus, mae un deliwr cyffuriau yn llai ar ein strydoedd.”