Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Roedd Ricky yn 31 oed pan aeth ar goll. Cafodd ei weld ddiwethaf ar CCTV tua 2.20pm ddydd Sadwrn 18 Tachwedd 2023, ym Maes-y-Deri, Aberdâr.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Owain Morrison: “Flwyddyn ar ôl diflaniad Ricky, rydym yn gobeithio o hyd bod gan aelodau o'r cyhoedd wybodaeth a allai ein helpu gyda'n hymchwiliad parhaus.
“Ers i Ricky fynd ar goll, rydym wedi cynnal chwiliadau helaeth gyda'n swyddogion Chwilio Arbenigol, a oedd yn cynnwys swyddogion o'n tîm deifio, timau cŵn arogli, hofrennydd yr heddlu (NPAS) a'r timau drôn. Mae ymholiadau wedi cael eu cynnal cyn belled â gogledd Cymru ac mae Ymgynghorydd Chwilio yr Heddlu wedi bod yn adolygu unrhyw wybodaeth newydd sydd wedi dod i law. Rydym wedi mynd ar drywydd pob achos o'i weld a gwybodaeth gan y cyhoedd. Anfonwyd dillad ac esgidiau y daethom o hyd iddynt yn ystod eich chwiliadau at y tîm archwilio fforensig i weld a oedd yn bosibl eu cysylltu â Ricky. Mae'r holl gyfleoedd chwilio corfforol cymesur ac ymarferol wedi cael eu harchwilio hyd eithaf ein gallu, gan gynnwys sawl ardal o afonydd, dyfrffyrdd a llystyfiant trwchus.
"Hoffwn bwysleisio ein bod yn parhau i ymchwilio i'r achos hwn, a gofynnaf i aelodau o'r cyhoedd barhau i gadw llygad pan fyddant allan ar hyd y lle a rhoi gwybod am unrhyw beth a all fod yn ddefnyddiol i'n hymchwiliad.
“Mae teulu Ricky wedi cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol drwy gydol y cyfnod hwn, ac yn parhau i gael cefnogaeth ganddynt, ac maent wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am bob agwedd ar ein gwaith o ddod o hyd i Ricky.
“Gofynnaf i unrhyw un a all fod wedi gweld neu siarad â Ricky yn y dyddiau neu'r wythnosau cyn iddo fynd ar goll ar 18 Tachwedd, neu unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth arall am ei leoliad, i gysylltu â ni.”
Gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd isod, gan ddyfynnu'r rhif digwyddiad 2300394323.
?? Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
101
*Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.*
Gellir rhoi gwybodaeth hefyd yn ddienw ar Crimestoppers ar 0800 555 111, neu drwy'r ffurflen ar-lein ar Rhoi Gwybodaeth | Crimestoppers (https://crimestoppers-uk.org/give-information/