Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ystod Wythnos Lluoedd Arfog, rydym yn dangos ein gwerthfawrogiad i'r rhai o gymuned y Lluoedd Arfog a'r gwaith y maent yn ei wneud i hyrwyddo heddwch, darparu cymorth a diogelu pobl ledled y byd.
Er mwyn dathlu'r wythnos hon ac i saliwtio'r arwyr o'n lluoedd arfog, rydym yn rhannu rhai o straeon ein cydweithwyr sydd wedi gwasanaethu ein gwlad fel Milwyr Wrth Gefn ac ar draws y Lluoedd Arfog.
Mae'r straeon hyn gan swyddogion a staff, a gafodd brofiadau ledled y byd cyn cael gyrfa yn y pen draw gyda Heddlu De Cymru.
![]() Cofrestrodd Carys fel Milwr Wrth Gefn yn y Fyddin pan oedd yn astudio yn y brifysgol yn 1998. Ymunodd â'r Corfflu Logisteg Brenhinol fel Rheolwr Cyflenwi. Ar ôl graddio yn 2000, gwnaeth Carys gais llwyddiannus i ymuno â'r Fyddin reolaidd ac ar ôl cyfnod dwys o hyfforddi cafodd ei hanfon i Kosovo ar daith weithredol o chwe mis. Pan ddychwelodd, trosglwyddodd i Gorfflu Brenhinol y Signalau ac ymunodd â Sgwadron Signalau yn Eastbourne. Yna cafodd ei dyrchafu i reng Corporal yn 2006. Yn yr un flwyddyn, symudodd Carys i dde Cymru ac ymuno â #ThîmHDC fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) ac yn ddiweddarach dechreuodd ei hyfforddiant Cwnstabl yr Heddlu. Ers trosglwyddo i Sgwadron Signalau 53 yng Nghaerdydd, mae Carys wedi parhau i ddatblygu drwy'r rhengoedd a bellach mae'n gwasanaethu fel Swyddog Gwarant Dosbarth 2 ac mae Prif Ringyll y Sgwadron wedi'i gwneud y milwr mwyaf datblygedig yn y Sgwadron. Drwy gydol ei gwasanaeth, mae Carys wedi bod cymryd rhan mewn taith gyfnewid gyda Byddin yr UD ac wedi ymgymryd ag ymarferion yn Gibraltar, yr Almaen, Romania a Ffrainc. Hefyd fe wnaeth hi gyfarfod â'i phartner, Lauren, yn ystod ei gwasanaeth ac fe briododd y ddwy yn ddiweddarach. Mae Carys wedi addasu a throsglwyddo'r sgiliau y mae wedi eu dysgu dros y blynyddoedd er mwyn helpu i ddatblygu ei gyrfa yn Heddlu De Cymru. Mae bellach yn gwasanaethu fel Rhingyll Hyfforddiant Cychwynnol yr Heddlu yn ein Gwasanaethu Dysgu a Datblygu, lle mae'n tiwtora Swyddogion dan Hyfforddiant. |
![]() Ymunodd Richie â'r Fyddin Brydeinig yn 1990 fel Peiriannydd Brenhinol. Yn dilyn cwblhau ei hyfforddiant yn Camberly, cafodd ei wobrwyo am ei hyfforddiant corfforol wrth gwblhau'r cwrs. Anfonwyd Richie i'r Almaen ar Dîm Codi Pontydd y Fyddin cyn cael ei ymfyddino i Iwgoslafia ym 1992 am chwe mis. Pan ddychwelodd i'r Almaen, cafodd le mewn campfa gatrodol, ac ym 1996 daeth yn Bencampwr codi pwysau y Fyddin Brydeinig. Gadawodd y lluoedd ar ôl chwe blynedd o wasanaeth. Ar ôl cyfnod o weithio i Maritime Security, dechreuodd Richie her newydd ac ymuno â Heddlu De Cymru fel cwnstabl. Yn fuan wedi hynny cymhwysodd i weithio yn yr Uned Chwilio Arbenigol lle mae ei ddyletswyddau'n cynnwys deifio, gweithio â rhaffau a gweithio mewn mannau cyfyngedig a gwaith cychod. Mae Richie wrth ei fodd â heriau sy'n dod â'i rôl yn #NhîmHDC a byddai'n annog unrhyw gyn-bersonél milwrol i ystyried ymuno. |
![]() Ymunodd PCSO Warren Williams â'r Fyddin ym 1987 a gwasanaethodd gyda'r Gwarchodlu Cymreig. Mewn gyrfa dros ddau ddegawd, cafodd ei benodi i ddyletswyddau ac ymarferion yng Ngogledd Iwerddon, Bosnia, Yr Almaen, Belize, Hong Kong, Canada, UDA a Chenia. Cafodd Warren ei flas cyntaf ar blismona yn ystod ei wasanaeth milwrol a chyflawnodd ddyletswyddau ym maes Plismona Catrodol, lle roedd yn gyfrifol am fonitro a darparu gofal i garcharorion yn y carchar. Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, cafodd reng Swyddog Gwarant Dosbarth 2 a roddodd iddo ddyletswyddau uwch-reoli a rôl fel cynghorydd i'r Uwchgapten. Ymddeolodd Warren o'i ddyletswyddau llawn amser yn 2011 ond dychwelodd fel gwirfoddolwr yn 2019 fel rhan o Warchodlu'r Brenin o Iwmyn y Gard, lle mae ei ddyletswyddau yn cynnwys mynychu Gwasanaethau Cablyd, Arwisgiadau, Ymweliadau Gwladwriaethol, Partïon Gardd a Gwasanaethau'r Gardas. Yn 2022, cafodd yr anrhydedd o gyflawni dyletswyddau gwylnos yn ystod angladd y ddiweddar Frenhines. Yn 2015 penderfynodd Warren drosglwyddo ei sgiliau i yrfa fel PCSO gyda #TîmHDC. Heddiw, mae'n gweithio gyda chymunedau a chynghorwyr i helpu i gadw De Cymru'n ddiogel ac wedi sefydlu amrywiol brosiectau Gwarchod y Gymuned drwy ddefnyddio'r arian a godwyd drwy redeg hanner marathonau. |
![]() Roedd gan Andrew a Judith Williams, sy'n ŵr a gwraig, yrfaoedd yn y lluoedd arfog cyn eu rolau gyda #ThîmHDC. Roedd Andrew yn Gyfrifydd Milwrol yng Nghorfflu Cyflog y Fyddin Frenhinol rhwng 1982 a 2012, a gwasanaethodd yn yr Almaen, Bosnia, Gwlad Belg, Gogledd Iwerddon, Cyprus a'r DU. Yn ystod ei wasanaeth, roedd yn Rheolwr Ardal Is-adrannol mewn Cydymffurfiaeth a Sicrwydd i Unedau'r Fyddin sydd wedi'u lleoli dramor, ac yn ddiweddarach daeth yn Bennaeth Adrannau yng Nghangen Ymchwiliadau Arbennig yr Heddlu Milwrol Brenhinol ac yn yr Uned Twyll Dramor. Wedi iddo ymddeol o'i wasanaeth milwrol, ymunodd Andrew â Heddlu De Cymru fel Arweinydd Cyflog a Rheoli Tîm yng ngwasanaethau'r Trysorlys a chafodd ei ddyrchafu'n ddiweddarach i rôl Rheolwr Cydymffurfio yn yr un adran. Ymunodd Judith â Rôl Corfflu Meddygol y Fyddin ym 1992 a thros gyfnod o sawl blwyddyn cymhwysodd fel Technegydd Meddygol, yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant cymorth cyntaf a hyfforddiant meddygol, rhoi cymorth meddygol i ymgyrchoedd ac ymarferion a rôl gefnogol wrth ddarparu addysg iechyd. Rôl Judith oedd yr un fwyaf amrywiol yn y Corfflu – a gellid dod o hyd iddi yn unrhyw le byddai'r Fyddin yn gweithredu. Yn ystod ei gwasanaeth, gwnaeth Judith hefyd ymgymryd â hyfforddiant arbenigol fel Technegydd Theatr Llawdriniaeth a chafodd brofiad mewn sawl ysbyty maes ledled y DU gan gynnwys Ysbyty Milwrol Caergrawnt yn Aldershot, Ysbyty Milwrol y Frenhines Elizabeth yn Llundain ac Ysbyty Milwrol Duges Caint yng Ngogledd Swydd Efrog. Daeth gwasanaeth Judith gyda'r Lluoedd Arfog i ben ym 1996 ond nid cyn iddi gyfarfod Andrew tra ar ddyletswydd yn yr Almaen. Priododd y ddau yn ddiweddarach a daeth y ddau at ei gilydd i weithio unwaith eto pan ymunodd Judith â #ThîmHDC yn 2019. Mae bellach yn gwasanaethu fel Swyddog Logisteg yn Adran Ystadau'r Heddlu. |
![]() Mae Craig yn gyn-arbenigwr Rhyfela gyda'r Llynges Frenhinol a gwasanaethodd fel Gweithredwr Sonar. Ei rôl oedd defnyddio systemau cyfrifiadurol datblygedig i nodi, olrhain ac atal bygythiadau posibl petai'n ofynnol. Wrth wasanaethu yn rheng Llongwr Abl (dosbarth cyntaf), cafodd Craig ei anfon i wneud dyletswyddau dan Ymgyrch Kipion yn 2012. Ei rôl oedd helpu i hyrwyddo heddwch a sefydlogrwydd yn rhanbarth y Gwlff a Chefnfor India a chyflawni dyletswyddau fel rhan o ymgyrch gwrth fôr-ladrad ar Fôr Arabia. Cyflawnodd ddyletswyddau mewn pedair gwlad ar ddeg cyn cael ei anfon i wasanaethau yn Ewrop, lle bu'n gweithio ar weithredoedd diogelwch ar Fôr Iwerddon a Chulfor Denmarc. Gadawodd Craig y Llynges Frenhinol ym mis Gorffennaf 2016 ac ymuno â Heddlu De Cymru yn 2022 fel PCSO yng nghymuned Maesteg. Ychydig yn ddiweddarach, gwnaeth Craig gais llwyddiannus i ddod yn Gwnstabl yr Heddlu ac mae bellach yn swyddog yr heddlu dan hyfforddiant. |
![]() Yn gyn-Beiriannydd Brenhinol, mae Simon yn dod o deulu o gyn-filwyr. Gwasanaethodd ei dad yng Ngogledd Iwerddon, gwasanaethodd ei deidiau yn yr Ail Ryfel Byd a gwasanaethodd ei hen daid yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl cael ei ysbrydoli gan ei berthnasau, ymunodd Simon â'r Fyddin ym 1993 a daeth yn aelod o Beirianwyr Brenhinol Sir Fynwy Frenhinol. Yn ystod ei wasanaeth, daeth yn gorporal recriwtio ac yn gyfarwyddwr ymarferion ac arfau a chymhwysodd fel hyfforddwr Cemegol, Biolegol, Radiolegol a Niwclear. Roedd hefyd yn un o'r milwyr ieuengaf i gynrychioli'r gatrawd yng Nghystadleuaeth Saethu Bisley. Ym 1997, dewisodd Simon yrfa newydd, gyrfa roedd wedi breuddwydio amdani erioed. Daeth yn swyddog heddlu. Am nad oedd Heddlu De Cymru yn recriwtio yn y cyfnod hwnnw, ni allai ymuno â Heddlu De Cymru. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn, ymunodd â'r Heddlu Metropolitan a dechreuodd hyfforddi yng Ngholeg yr Heddlu Hendon, lle daeth yn gapten hyfforddi'r rhai a dderbyniwyd a dechreuodd drosglwyddo ei sgiliau o'i wasanaeth gyda'r lluoedd arfog. Wedi sawl blwyddyn gyda'r Met, trosglwyddodd Simon i Heddlu De Cymru ac mae'n gwasanaethu fel Swyddog Plismona'r Ffyrdd heddiw. Fel rhan o dîm arbenigol, mae'n chwarae rôl wrth helpu i atal a chanfod troseddau ar ein ffyrdd. Mae hefyd yn swyddog meddygol heddlu arbenigol a gafodd gydnabyddiaeth yn 2022 am achub plentyn bach a oedd yn tagu tra ar ddyletswydd. Yn 2018, diwygiodd Simon a sawl un arall adran Halberdier yr heddlu a bellach mae'n bresenoldeb parhaol mewn digwyddiadau ac achlysuron swyddogol. Fel y Prif Halberdier, mae Simon wedi arwain y grŵp yn ystod ymweliadau Brenhinol a gwasanaethau Coffa niferus. Cafodd ei ddewis hefyd fel un o ddim ond 16 swyddog yr heddlu o Brydain i gymryd rhan yng ngorymdaith angladdol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. Gadawodd Simon y lluoedd arfog bron dri deg mlynedd yn ôl ond mae ganddo gysylltiadau agos â'r hyn a ddysgodd o hyd. Mae'n diolch i'r lluoedd arfog am roi iddo'r sbardun roedd ei angen arno i chwarae ei ran yn cadw De Cymru'n ddiogel. |
Yn 2022, llofnododd Heddlu De Cymru Gyfamod y Lluoedd Arfog gan addo cydnabod a deall yr angen i drin aelodau neu gyn-aelodau Lluoedd Arfog ein gwlad â thegwch a pharch.
"Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn rhoi cyfle i ni ddangos ein diolchgarwch i'r holl bobl sydd wedi gwasanaethu, ac sy'n parhau i wasanaethu, yn ein Lluoedd Arfog.
"Mae gennym 24 o Filwyr wrth Gefn gweithredol yn Heddlu De Cymru a dros 200 o gydweithwyr sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol."
"Rydym yn falch iawn o'r gydberthynas sydd gennym ers cryn amser â'n Lluoedd Arfog, a thrwy'r cyfamod a lofnodwyd ddwy flynedd yn ôl, rydym yn anelu at barhau i ddatblygu'r cydberthnasau rydym wedi eu meithrin drwy barhau i gefnogi personél y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd, yn ogystal â milwyr wrth gefn a chyn-filwyr".
- Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan
Fel sefydliad, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r addewid hwn ac i gofio am y rhai a fu farw wrth wasanaethu gyda'r Lluoedd Arfog, gartref neu dramor.