Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diwedd mis Mehefin yw'r dyddiad cau ar gyfer sicrhau bod pob Ci Tarw XL sydd wedi'i eithrio wedi cael ei ysbaddu.
Rhaid i berchenogion Cŵn Tarw XL cofrestredig a oedd yn 12 mis neu'n hŷn ar 31 Ionawr 2024 drefnu i'w cŵn gael eu hysbaddu erbyn diwrnod olaf mis Mehefin eleni er mwyn sicrhau bod y Dystysgrif Eithrio yn parhau i fod yn ddilys.
Os na fydd perchenogion yn cyflwyno'r ffurflen Cadarnhau Ysbaddu i DEFRA erbyn 21 Gorffennaf, ni fydd y ci wedi'i eithrio mwyach.
Mae mesurau rheoli llym wedi'u rhoi ar waith ar gyfer Cŵn Tarw XL presennol. Rhaid iddynt gael eu cofrestru, eu microsglodynnu, eu hysbaddu a'u cadw ar dennyn ac wedi'u mwselu yn gyhoeddus, a rhaid bod yswiriant trydydd parti wedi'i drefnu ar eu cyfer gyda'r Ymddiriedolaeth Cŵn.
Rhoddwyd y mesurau hyn ar waith i wella diogelwch y cyhoedd a sicrhau bod y boblogaeth bresennol o Gŵn Tarw XL yn lleihau dros amser.
Gallai unrhyw un y canfyddir bod ganddo un o'r cŵn peryglus hyn ac nad yw'n bodloni'r rheolau llym wynebu erlyniad a chofnod troseddol a gallai ei gi gael ei atafaelu.
Ar gyfer Cŵn Tarw XL sydd eisoes wedi'u hysbaddu, rhaid i filfeddyg gwblhau a chyflwyno Ffurflen Cadarnhau Ysbaddu gyda'r perchennog.
Canllawiau ysbaddu:
31 Rhagfyr 2024 ar gyfer cŵn a oedd yn llai na blwydd oed ar 31 Ionawr 2024
30 Mehefin 2024 ar gyfer cŵn a oedd yn hŷn na blwydd oed ar 31 Ionawr 2024