Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwaith partneriaeth gwych rhwng Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Merthyr Tudful HDC, a Thîm Plismona yn y Gymdogaeth Merthyr Tudful, wedi arwain at gael Gorchymyn Ymddygiad Troseddol ar Bleddyn Rees.
Mae Bleddyn wedi bod yn gyfrifol am nifer o broblemau yng Nghanol Tref Merthyr Tudful oherwydd ei Ymddygiad Gwrthgymdeithasol mynych a chardota bygythiol.
Cafodd Bleddyn ei weld yn targedu pobl agored i niwed yn rheolaidd yng Nghanol y Dref ac yn gofyn am arian ond wedi iddynt wrthod, byddai'n ymddwyn yn fwy ymosodol ar lafar ac yn achosi iddynt ofni eu diogelwch.
Mae ymdrechion a'r gwaith caled gan bawb wedi arwain at arestio Bleddyn am 10 achos o dorri ei Hysbysiad Gwarchod y Gymuned, a lluniwyd ffeil achos tystiolaeth enfawr a'i anfon i'r llys ac yn dilyn hyn mae Gorchymyn Ymddygiad Troseddol wedi'i gyflwyno i Bleddyn heddiw, a fydd yn para am y ddwy flynedd nesaf. Mae'r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol hwn yn cynnwys yr amodau canlynol:
🔹️ Peidio â mynd at unigolion dieithr i ofyn am arian neu gardota yng Nghyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful.
🔹️ Peidio â chyflwyno eich hun mewn ffordd o'r fath, neu eistedd ar y palmant, gyda neu heb eitemau o'ch blaen gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gwpan plastig, het neu bapur newydd fel y credir eich bod yn cardota neu'n derbyn arian o fewn Cynor Bwrdeistref Merthyr Tudful.
🔹️ Peidio â mynd i ardal waharddedig canol tref Merthyr Tudful fel yr amlinellir yn goch ar y map a ddarperir. Oni bai eich bod yn mynd i apwyntiad a drefnir ymlaen llaw, lle byddwch yn gorfod darparu tystiolaeth i Swyddog os bydd gofyn i chi wneud hynny. Fodd bynnag, cewch fynd i'r ardal waharddedig er mwyn mynd i'r banc, sef yr Undeb Credyd yn 139 Stryd Fawr, Merthyr Tudful CF47 8DN, at ddiben ymholi neu gynnal trafodion ariannol. Dylid defnyddio'r mynediad ar Swan Street a throi i'r chwith i'r Stryd Fawr fel yr amlinellir yn wyrdd ar y map a ddarparwyd yn flaenorol, y mae'r diffynnydd wedi cadarnhau ei fod yn dal yn ei feddiant. Wedi i'r ymholiad neu'r trafodion banc gael eu cyflawni, dylech adael yr ardal waharddedig ar unwaith ar hyd yr un llwybr y gwnaethoch ei ddefnyddio i gyrraedd.
🗪 Sgwrs Fyw 🌐https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/ Ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
✉️ E-bostio [email protected]
📞 101