Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd cyn-swyddog gyda Heddlu De Cymru sgyrsiau amhriodol ar-lein ag unigolyn y credai ei fod yn blentyn.
Mewn gwirionedd, swyddog heddlu Tarian cudd oedd yr unigolyn yr oedd yn sgwrsio ag ef ac arestiwyd y cyn gwnstabl Anthony French.
Cyflwynwyd ffeil o dystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron a phenderfynwyd peidio â'i gyhuddo o unrhyw droseddau.
Arweiniodd ymchwiliad ar y cyd rhwng Tarian ac Uned Atal Llygredigaeth Heddlu De Cymru at y swyddog yn wynebu gwrandawiad camymddwyn carlam, a gadeiriwyd gan y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan.
Ymddiswyddodd PC French cyn y gwrandawiad a oedd yn ystyried honiadau ei fod wedi torri'r safonau ymddygiad proffesiynol canlynol:
Safon 1: Gonestrwydd ac Uniondeb
Safon 9: Ymddygiad Annheilwng
Honnir ei fod, ym mis Ebrill 2023, wedi cael sgwrs amhriodol ar-lein ag unigolyn y credai ei fod yn blentyn ac wedi defnyddio gwefan pornograffig ar yr un pryd, a'i fod, ym mis Gorffennaf 2023, wedi ceisio camarwain swyddogion ymchwilio er mwyn osgoi cael ei erlyn.
Cafodd yr honiadau o gamymddwyn difrifol eu profi'n wir, a'r gosb a bennwyd gan y gwrandawiad oedd diswyddo pe bai'r swyddog yn dal i weithio.
Wrth gyflwyno ei farn, dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Er bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ystyried na wnaeth hyn gyrraedd trothwy troseddol, gwnaeth hyn gyrraedd a mynd y tu hwnt i fy nhrothwy personol i ynghylch gosod safonau ymddygiad yn Heddlu De Cymru.
“Dim ond ar hap y gwnaeth cyn gwnstabl French sgwrsio â swyddog heddlu cudd ar-lein. Roedd ymateb yr Uned Atal Llygredigaeth yn gyflym ac yn bendant.”
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Mark Lenihan, pennaeth safonau proffesiynol:
“Dylai'r cyn-swyddog fod wedi gwybod, ar ôl hyfforddiant helaeth â Heddlu De Cymru, bod sgyrsiau o'r fath a rhyngweithio â phlant 14 oed yn anghyfreithlon ac yn hollol amhriodol. Roedd ganddo rwymedigaeth, o leiaf, i ddiogelu a rhoi gwybod am blant agored i niwed o'r fath, ond dewisodd beidio.
“Yn ystod y cyfweliad, roedd yn aml ei fod wedi dweud celwydd wrth y swyddogion er mwyn camarwain y swyddogion ymchwilio ac i osgoi cael ei erlyn.
“Mae Heddlu De Cymru yn disgwyl i'w swyddogion ymddwyn â gonestrwydd ac uniondeb ac ni ddylid ymddwyn yn annheilwng gan ei fod tanseilio hyder y cyhoedd yng ngwasanaeth yr heddlu p'un ar ddyletswydd ai peidio.
“Nid oedd ei ymddygiad yn cyrraedd y safonau hynny o gwbl ac nae wedi colli ei yrfa yng ngwasanaeth yr heddlu o ganlyniad i hynny.”
Bydd Anthony French yn cael ei roi ar restr gwahardd y Coleg Plismona i sicrhau na all ddychwelyd i blismona.