Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn a oedd yn rhan o gynllwyn i gyflenwi a chynhyrchu canabis wedi cael eu gorchymyn i roi'r arian a gawsant o'u troseddau yn ôl o dan y Ddeddf Enillion Troseddau.
Yn ôl ym mis Tachwedd 2022, cynhaliodd swyddogion chwiliad mewn cyfeiriad yn y Porth ar ôl cael gwybod am weithgarwch amheus. O ganlyniad i'r chwiliad, daethom o hyd i ffatri canabis sefydledig. Yn dilyn ymchwiliad a gynhaliwyd gan Uned Troseddau Cyfundrefnol Morgannwg Ganol, cysylltwyd chwe ffatri fawr â dau ddyn.
Ar 15 Mawrth 2023, cafodd Ashley James Carter, 35 oed o'r Rhondda, a Howard Daniel Williams, 47 oed o Gaerdydd, eu dedfrydu am droseddau cyffuriau yn Llys y Goron Merthyr.
Cafodd Carter ei ddedfrydu i bum mlynedd a thri mis yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi a chynhyrchu canabis ac am ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A – crac cocên. Cafodd Williams ei ddedfrydu i bedair blynedd a chwe mis yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi a chynhyrchu canabis.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ian Jones: “Rydym yn defnyddio'r Ddeddf Enillion Troseddau i sicrhau na all delwyr cyffuriau ac eraill sy'n ennill arian drwy fasnachau anghyfreithlon barhau i elwa o hyn pan fyddant yn gadael y carchar. Mae Ymchwilwyr Ariannol yn gweithio'n galed iawn i sefydlu faint mae troseddwyr wedi'i ennill o'u gweithgareddau anghyfreithlon ac sydd ar gael i'w dalu'n ôl.
“Yn dilyn eu dedfryd, mae barnwr yn Llys y Goron Merthyr bellach wedi caniatáu cyflwyno gorchmynion atafaelu yn erbyn Carter a Williams, gan fynnu eu bod yn talu'n ôl yr hyn sydd ganddynt mewn arian parod ac asedau eraill. Yn achos Howard Williams, y swm sydd ar gael yw £32,460.00, gyda chyfanswm o £1,962,291 i'w ad-dalu, ac mae gan Ashley Carter £1,140.00 ar gael gyda chyfanswm o £545,881 i'w ad-dalu.
"Mae'r Ddeddf Enillion Troseddau yn ein galluogi i atal troseddwyr rhag parhau i elwa o'u gweithgareddau anghyfreithlon hyd yn oed ar ôl iddynt gael eu harestio, eu cyhuddo a'u hanfon i'r carchar.
“Mae'r gorchmynion atafaelu a gyflwynwyd yn parhau'n daladwy nes iddynt gael eu talu'n llawn ac, er nad oes ganddynt asedau sy'n werth hynny o bosib, ac na allant dalu'r gorchymyn hwn yn llawn ar hyn o bryd, gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn sicrhau y gwneir pob ymdrech i adennill pob ceiniog waeth pa mor hir y bydd hynny'n ei gymryd.
“Wrth wneud hyn, rydym yn sicrhau na chaiff troseddwyr fwynhau unrhyw elw o droseddau ar ôl iddynt gwblhau eu dedfryd. Rydym yn sicrhau na allant ddefnyddio eu henillion amheus i barhau â'u mentrau anghyfreithlon.”