Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Martin Perkins o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am ymwneud â chyflenwi crystal meth sy'n gyffur Dosbarth A.
Cafodd y dyn 40 oed ei arestio ar ôl i swyddogion ganfod negeseuon ar liniadur yn ystod gwarant nad oedd yn gysylltiedig ag ef yn Butetown ym mis Awst y llynedd.
Roedd y rhif a anfonodd y negeseuon a'r oedd yn ymwneud â'r cyffuriau yn gysylltiedig â Perkins.
Cynhaliodd y swyddogion ymholiadau arestio yn ei gyfeiriad diweddaraf hysbys yng Ngerddi Gelli-gaer, Cathays. Pan nad oedd yno, daethpwyd o hyd i werth tua £600 o crystal meth, clorian bwyso a pharaffernalia cyffuriau eraill.
Ym mis Tachwedd 2023, cafodd Perkins ei arestio yn Swindon, gyda rhagor o crystal meth yn ei feddiant, a chafodd ei alw am gyfweliad eto yng Nghaerdydd.
Arweiniodd ymholiadau pellach y swyddogion at un o'i gyfeiriadau eraill yn Kensington, Llundain, lle cafodd mwy o gyffuriau a thystiolaeth bellach eu canfod.
Ddydd Gwener 2 Awst, 2024, plediodd Perkins yn euog yn Llys y Goron Caerdydd a chafodd ei ddedfrydu i 38 mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Beth Harrison: “Mae crystal meth yn gyffur hynod gaethiwus a phrin yn Ne Cymru.
Yn ystod yr ymchwiliad, cafodd nifer o restrau ticio eu canfod a oedd yn awgrymu trosiant enfawr o arian parod yn ogystal â sail cwsmeriaid sefydledig.
“Er iddo gael ei ganfod heb fawr ddim cyffuriau anghyfreithlon yn ei feddiant, roedd modd i ni brofi lefel cyfraniad uchel Perkins yn cyflenwi a arweiniodd at ei ble euog.”