Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Heddlu De Cymru a 29 o dafarndai a bwytai wedi dod ynghyd i lansio eu cynllun gyrrwr dynodedig.
Yn ystod cyfnod prysur y Nadolig, bydd y 29 o safleoedd trwyddedig yn cynnig diodydd meddal am ddim i yrwyr dynodedig. Gyrrwr dynodedig yw rhywun sy'n ymwrthod rhag yfed alcohol er mwyn bod yn yrrwr cyfrifol.
Nod y cynllun yw hyrwyddo yfed yn gyfrifol mewn perthynas â diogelwch ar y ffyrdd. Gwesty'r Holiday Inn Caerdydd (gweler yn y llun) oedd un o'r safleoedd cyntaf i gofrestru ar gyfer y cynllun newydd, yn ogystal â The Philharmonic, Brewhouse a Revolution ymysg sawl lleoliad arall ledled Caerdydd ac ardal ehangach yr heddlu.
Dywedodd Claire Dewhurst, Swyddog Trwyddedu Heddlu De Cymru, “‘Mae'n bleser cael lansio Cynllun Des ydw i (Gyrrwr Dynodedig) am yr ail flwyddyn yn olynol.
Bydd y cynllun yn cael ei redeg wrth i gwsmeriaid ddweud ‘Des ydw i’ wrth staff y bar ac yna byddant yn cael band arddwrn a diodydd meddal am ddim.
Mae'r cynllun hwn eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rydym yn annog pawb i gymryd rhan, yn enwedig dros gyfnod yr ŵyl wrth i bawb fynd allan i fwynhau eu hunain. Mae bod yn yrrwr dynodedig yn gallu bod yn faich weithiau, ond rydym yn gobeithio y bydd y cynllun hwn yn annog mwy o bobl i fod yn ymwybodol o yfed a gyrru a phwysigrwydd bod yn ddiogel ar y ffyrdd.”
Dywedodd Richard Platts, Rheolwr Cyffredinol Gwesty'r Holiday Inn, Caerdydd, “Mae'n bleser cael bod yn rhan o'r cynllun arloesol hwn gan Heddlu De Cymru. Rydym am sicrhau bod ein cwsmeriaid yn mwynhau'r cyfnod dros y Nadolig eleni gan fod yn gyfrifol hefyd, ac mae'r cynllun hwn yn sicr yn helpu hynny!”
Cafodd cynllun DES ei gynnwys fel rhan o grŵp rhyngweithio yng Nghaerdydd - Partneriaeth Alcohol Gymunedol Caerdydd (CAP) ac mae wedi ennill gwobr genedlaethol am ei waith yn addysgu pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed am risgiau goryfed. Cafodd y bartneriaeth ei chanmol am y gwaith y mae wedi'i gyflawni i dynnu sylw pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed yng Nghaerdydd.
Gellir gweld rhestr lawn o'r safleoedd trwyddedig sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun isod: