Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Shane, sy'n 48 oed, ei weld ddiwethaf yn gadael Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ddydd Sul 7 Mai.
Mae ymholiadau helaeth wedi cael eu cynnal er mwyn dod o hyd i Shane ond nid oes neb wedi cadarnhau eu bod wedi ei weld ers iddo gael ei weld ddiwethaf ar Heol Allensbank, ger yr ysbyty, tua 12:30pm y diwrnod hwnnw.
Gwyddom ei fod yn byw bywyd crwydrol ac mae'n bosibl ei fod yn byw mewn pabell. Mae ganddo gysylltiadau ag Abertawe ac mae hefyd wedi byw yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd yn y gorffennol.
Mae mam Shane, Diane Bush wedi apelio gan ofyn “Os oes unrhyw un yn gwybod ble mae Shane, rhowch wybod i ni. Os bydd Shane yn gweld y neges hon, gall ef wneud wneud yr un peth; er mwyn rhoi gwybod i ni ei fod yn iawn. Os nad yw am ddod gartref, mae hynny'n iawn, dim ond iddo roi gwybod i ni ei fod yn iawn.”
Disgrifir Shane fel dyn main 6 troedfedd 5 modfedd, gyda gwallt byr, llwyd golau. Cafodd ei weld ddiwethaf yn gwisgo crys-t llwyd North Face, siaced ddu, trowsus cargo gwyrdd, trainers du, ac yn cario sach deithio ddu.
Gofynnir i unrhyw un a allai fod wedi gweld Shane, neu sydd â gwybodaeth a fydd yn ein helpu i ddod o hyd iddo, gysylltu â ni gan ddyfynnu'r rhif digwyddiad 2300147308.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.