Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cyn-berchennog siop wedi cael ei anfon i'r carchar am 12 mlynedd ar ôl ei gael yn euog o droseddau rhyw yn ymwneud â phlant a ddigwyddodd fwy na chwarter canrif yn ôl.
Cyflogodd Nazir Ahmed, 73 oed ferch yn ei harddegau fel cynorthwyydd yn ei siop yn Nhrelái, Caerdydd.
Cyflogodd Nazir Ahmed, 73 oed ferch yn ei harddegau fel cynorthwyydd yn ei siop yn Nhrelái, Caerdydd.
Roedd Ahmed, 73 oed, yn berchennog siop yn Nhrelái yn ystod yr 1990au ac mae wedi'i ddedfrydu i 12 mlynedd yn y carchar.
Gan ddangos dewrder arbennig, dros 25 mlynedd yn ddiweddarach, cysylltodd y ferch â Heddlu De Cymru i roi gwybod ei bod hi wedi cael ei cham-drin yn rhywiol.
Defnyddio Ahmed ei safle fel rheolwr y siop i fanteisio ar fenyw ifanc, agored i niwed am gyfnod estynedig o amser.
Ar ôl treial yn Llys y Goron Caerdydd, cafwyd Ahmed yn euog o dri achos o dreisio plentyn, ac ar 1 Mehefin 2023, cafodd ei ddedfrydu i 12 mlynedd yn y carchar a'i roi ar Gofrestr Troseddwyr Rhyw am oes.
Dywedodd Ditectif Mike Lewis sef y prif ymchwilydd:
“Rhaid cydnabod dewrder y dioddefwr am roi gwybod am y troseddau ac am barhau â'r achos drwy'r System Cyfiawnder Troseddol, sy'n broses arbennig o anodd ac emosiynol i ddioddefwyr troseddau o'r fath.
“Rydym yn falch o ddod â throseddwr peryglus o flaen ei well flynyddoedd lawer ar ôl i'r drosedd gael ei chyflawni. Mae'r achos hwn yn dangos na ellir dianc yn dilyn targedu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac mai cyfiawnder sydd â'r gair olaf bob amser.
“Rwy'n annog unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd debyg i roi gwybod i ni amdano, ni waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio, gan y byddwn yn ymchwilio'n llawn i'r drosedd ac yn rhoi cefnogaeth lawn i'r unigolyn.”