Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:43 17/03/2023
Daeth ymchwiliad gan Dîm Ymchwiliadau Ar-lein Heddlu De Cymru (POLIT) o hyd i ddelweddau anweddus o blant ar ddyfais Marc Phillips o Aberdâr.
Yn gynharach y mis hwn, cafodd Phillips, 43 oed, ei ddedfrydu i dair blynedd a naw mis yn y carchar gan Lys y Goron Merthyr Tudful. Cafodd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol penagored hefyd, ac mae wedi cael ei ychwanegu at y Gofrestr Troseddwyr Rhyw am gyfnod amhenodol.
Gweithredodd ditectifs warant yng nghartref Phillips ar ôl i gudd-wybodaeth ddod i law a oedd yn nodi bod deunydd anghyfreithlon wedi cael ei lanlwytho o'i gyfeiriad cartref.
Datgelodd yr ymchwiliad mai ffôn symudol Phillips oedd yn gyfrifol am y lanlwythiadau. Cafodd ei arestio er iddo wadu bod ganddo unrhyw wybodaeth am y lanlwythiadau dan sylw yn y lle cyntaf.
Ond cadarnhaodd archwiliadau fforensig o'i ffôn fod y ddyfais yn cynnwys saith delwedd anweddus o blant a dangosodd hefyd ei fod wedi rhannu rhai delweddau â throseddwyr eraill.
Plediodd yn euog i'r holl droseddau yn ddiweddarach.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Cheryl Jenkins, o POLIT:
“Mae plant go iawn yn dioddef y math gwaethaf o gam-drin a chamfanteisio wrth gynhyrchu'r delweddau hyn, ac mae'r rhai sy'n eu lawrlwytho ac yn edrych arnynt yn creu marchnad i ragor o ddelweddau o'r fath gael eu cynhyrchu – ac i fwy o blant ddioddef yn y dyfodol. Yn aml, bydd y gamdriniaeth hon yn cael effaith barhaol ar y dioddefwyr, a gall barhau i effeithio arnynt am weddill eu hoes.
“Mae gennym dîm ymroddedig o dditectifs arbenigol o fewn POLIT sy'n targedu troseddwyr sy'n prosesu ac yn rhannu deunydd sy'n dangos achosion o gam-drin plant yn rhywiol ar-lein. Drwy ddefnyddio sawl ffynhonnell cudd-wybodaeth, maent ar y rheng flaen o ran amddiffyn plant a mynd i'r afael â throseddwyr fel Phillips sy'n credu bod eu gweithgareddau ar-lein yn ddienw neu nad oes modd eu holrhain.”
Rhowch wybod am unrhyw bryderon sydd gennych i ni ar-lein:
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.