Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:13 04/05/2023
Dyn wedi'i garcharu am droseddau yn ymwneud â meithrin perthynas amhriodol â phlentyn ar-lein
Mae dyn 59 oed wedi'i ddedfrydu i 2 flynedd yn y carchar am droseddau yn ymwneud â meithrin perthynas amhriodol â phlentyn ar-lein
Ymddangosodd Emyr Anthony, o Abertawe, yn Llys y Goron Abertawe heddiw (dydd Iau 4 Mai) i'w ddedfrydu, ar ôl pledio'n euog i gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn a chyfarfod â phlentyn ar ôl meithrin perthynas amhriodol ag ef at bwrpas rhyw.
Arweiniwyd yr ymgyrch gan Tarian, sef yr uned troseddau cyfundrefnol ranbarthol, ynghyd â Heddlu Dyfed Powys.
Clywodd y llys sut y defnyddiodd Anthony blatfformau cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â phroffil ar-lein unigolyn yr oedd yn credu ei fod yn fachgen 14 oed, ond a oedd yn un o swyddogion cudd Tarian.
Mewn sgyrsiau, cydnabu Anthony, 59 oed, ei fod yn siarad â phlentyn cyn disgrifio sawl gweithred rywiol mewn ffordd graffig a threfnu i gyfarfod â'r bachgen ar gyfer gweithgarwch rhywiol; gan gadarnhau amser a lleoliad. Gwnaeth Anthony drefniadau i gyfarfod â'r bachgen ym mis Mawrth, yn Cross Hands, lle y cafodd ei arestio.
Arweiniodd ymgyrch ar y cyd gan Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian a Heddlu Dyfed Powys at arestio Anthony a'i erlyn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mathew Davies o Tarian: “Dyma enghraifft o gydweithio gwych rhwng Tarian a Heddlu Dyfed Powys. Roedd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar dargedu troseddwyr sy'n achosi llawer o niwed ac, ar yr un pryd, ddiogelu ac amddiffyn plant.
“Yn Uned Tarian, mae gennym swyddogion arbenigol sy'n gweithio'n ddiflino i amddiffyn plant ar-lein yn ogystal â thargedu troseddwyr fel Anthony.
“Ein prif flaenoriaeth yw amddiffyn plant a'u cadw'n ddiogel yn ein cymunedau.
“Os bydd unrhyw un wedi cael ei gam-drin yn rhywiol pan yn blentyn, byddwn yn eich annog i roi gwybod i'ch heddlu lleol drwy ffonio 101. Byddwn bob amser yn ymchwilio i honiadau o gamdriniaeth, ni waeth pryd y gwnaethant ddigwydd. Gall dioddefwyr siarad yn gyfrinachol ag ymchwilwyr profiadol a gallwn hefyd eu helpu i gael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau cymorth eraill.”
“Os oes gennych unrhyw bryderon am eich defnydd o'r rhyngrwyd neu os ydych yn meddwl am blant neu'n ymddwyn tuag atynt mewn ffordd amhriodol neu os ydych yn pryderu am y ffordd y mae rhywun rydych yn ei adnabod yn ymddwyn tuag at blant neu os ydych yn pryderu am ei ddefnydd o'r rhyngrwyd, mae Sefydliad Lucy Faithfull yn darparu llinell gymorth ddienw a chyfrinachol am ddim, sef Stop It Now!, ar 0808 1000 900 lle y gallwch gael cyngor, cymorth a gwybodaeth.”