Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Jackson Price, 13, Archie McCarthy, 14, Cody Bond, 16, Charlie Pearce, 16, Daniel Watkins, 16, a Tyler Hammonds, 17, i gyd o Ferthyr Tudful, wedi cael eu gwneud yn destun Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO) o ganlyniad i'w hymddygiad dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
Cafodd y chwe bachgen, sy'n gysylltiedig â grŵp o'r enw “Young and Deadly”, eu gwneud yn destun y gorchymyn yn Llys Ynadon Merthyr ddydd Iau 13 Ebrill fel rhan o fesurau i fynd i'r afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Merthyr.
Bydd y Gorchmynion Ymddygiad Troseddol yn para tan 12 Ebrill 2025 a byddant yn atal pob un o'r bechgyn rhag bod mewn man cyhoeddus yn sir Merthyr Tudful yng nghwmni mwy na dau unigolyn arall sydd dan 21 oed neu sy'n ymddangos eu bod dan yr oedran hwnnw. Nid yw hyn yn cynnwys sefydliadau addysg a hyfforddiant.
Dywedodd yr Arolygydd Plismona Lleol, Jon Duckham:
“Mae Gorchmynion Ymddygiad Troseddol yn ein galluogi i ymdrin ag unigolion sy'n achosi trafferth mynych yn gyflym – mae nhw naill ai'n cydymffurfio, ac yn derbyn y cymorth sydd ar gael iddyn nhw, neu mae nhw'n mynd yn groes i'r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol ac yn cael eu harestio a'u galw gerbron y llys unwaith eto.
“Mae'n anffodus iawn bod natur ailadroddus troseddau'r bechgyn yn golygu ein bod wedi gorfod cymryd camau o'r fath fel mesur ataliol.
“Rwy'n gobeithio y bydd y gorchmynion hyn a gyhoeddwyd gan Lys Ynadon Merthyr yn rhoi tawelwch meddwl i'r gymuned ac yn cynnig lefel o ddiogelwch a chyfle i wella ymddygiad y bechgyn dan sylw.
“Byddwn yn parhau i fonitro ymddygiad yr unigolion yn ogystal â chymryd camau tebyg yn erbyn unrhyw un arall sy'n gweithredu yn yr un ffordd.”
Os byddwch yn amau bod unrhyw un yn mynd yn groes i'r Gorchmynion Ymddygiad Troseddol hyn, cysylltwch â ni.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.