Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:45 10/01/2023
Mae Steven Evans, 44 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr wedi'i ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful i ddwy flynedd a phedwar mis yn y carchar ar ôl cael ei ddyfarnu'n euog o fwrgleriaeth o ganlyniad i dystiolaeth gan yr Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd (JSIU).
Daeth ditectifs ac arbenigwyr fforensig a fu'n ymchwilio i'r fwrgleriaeth o hyd i olion traed ar y safle ac, yn dilyn archwiliadau fforensig manwl, gwnaethant lwyddo i baru'r olion hynny â'r esgidiau roedd Evans yn eu gwisgo.
Ceisiodd Evans ddwyn o'r tŷ yn Nhrelales, Pen-y-bont ar Ogwr, ar 16 Tachwedd ond rhedodd i ffwrdd ar ôl i rywun darfu arno. Cafodd ei stopio gerllaw ar ôl i ddeiliad y tŷ roi disgrifiad ohono. Mae'n lleidr adnabyddus sydd wedi cyflawni llawer o droseddau a phan gafodd ei arestio, roedd yn cario morthwyl.
Diogelodd swyddogion fforensig y safle er mwyn iddo gael ei archwilio. Roedd swyddogion yn gwybod, yn yr achos penodol hwn, y byddai esgidiau yn ffynhonnell bwysig o dystiolaeth er mwyn adnabod y troseddwr.
Datgelodd archwiliad trylwyr o lawr gwaelod cyfan yr eiddo nifer o olion esgidiau a brofodd fod Evans wedi bod ar y safle.
Gallai swyddogion arbenigol weld o'r olion traed a gymerwyd fod gan esgidiau'r unigolyn dan amheuaeth yr un olion traul unigryw, yn ogystal â'r un patrwm, â'r olion ar y safle.
Roedd y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yn ymchwiliad mor gryf fel bod Evans wedi pledio'n euog yn ddiweddarach. Cafodd ei ddedfrydu ar 15 Rhagfyr 2022.
Dywedodd Ditectif Uwch-arolygydd Mathew Lewis:
“Mae hwn yn ganlyniad gwych gan dîm ein Huned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd (JSIU).
“Roedd pwysau'r dystiolaeth, a gasglwyd yn ofalus ac yn fedrus gan ein tîm, yn allweddol i sicrhau euogfarn.
“Mae'r ymdrechion a'r dyfalbarhad ar y safle yn dangos yn llawn ystyr 'mynd yr ail filltir', a rhaid canmol diwydrwydd a phroffesiynoldeb ein tîm a wnaeth bob ymdrech i ddod â lleidr sy'n fodlon manteisio ar bobl pan fyddant yn cysgu yn eu cartrefi eu hunain a chario'r cyfarpar i'w helpu i gyflawni'r drosedd, o flaen ei well.
“Mae'n dangos yn llawn ymdrechion a gwerth ymchwiliadau fforensig a'r dystiolaeth y maent yn ei darparu. Mae hon yn stori lwyddiant wych sydd wedi chwarae rôl hollbwysig i sicrhau cyfiawnder."