Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:51 30/01/2023
Fis Ionawr 2022, defnyddiodd Scott Cook fwyell i dorri drwy ddrws cwpl yn eu 60au.
Torrodd Scott Cook i mewn i gartref yn Nhonysguboriau yn Ionawr 2022, drwy ddefnyddio bwyell i dorri drwy'r drws.
Roedd y perchenogion, cwpl yn eu 60au, newydd adael eu cartref i fynd allan am y noson.
Unwaith roedd y tu mewn i'r cartref, gadawodd y dyn 44 mlwydd oed lwybr o ddinistr - gan achosi gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod a cholled. Chwilotodd drwy bob ystafell, gan dorri cypyrddau a droriau ar hyd y ffordd.
Gwnaeth ddwyn arian, eitemau gwerthfawr ac eitemau personol o briodas 48 mlynedd y cwpl.
Daethpwyd o hyd i DNA Cook ar y fwyell a adawodd ar y safle ac ar focs gemwaith yn y cartref.
Cafodd ei arestio, ei gyhuddo a'i gadw yn y ddalfa.
Wythnos diwethaf, pan ymddangosodd yn Llys y Goron Merthyr, cafodd Cook ei ddedfrydu i flwyddyn a chwe mis yn y carchar am ei droseddau.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Harri Andrews, arweinydd yr achos:
“Achosodd Cook ddifrod a dinistr enfawr wedi iddo chwalu ei ffordd i mewn i gartref cwpl.
“Achosodd ei weithredoedd straen a phryder mawr i'w ddioddefwyr, sydd wedi cael eu heffeithio'n sylweddol gan ei droseddau.
“Byddwn yn parhau i weithio'n galed i roi lladron cyson ger bron y llys a dwi'n gobeithio y bydd y ffaith bod lleidr arall yn y carchar yn rhoi sicrwydd i breswylwyr yn ardal yr heddlu.”